COAH Literacy Project 2013-14 CYM

You might also like

Download as pdf or txt
Download as pdf or txt
You are on page 1of 2

COLEG Y CELFYDDYDAU A'R DYNIAETHAU

PROSIECT LLYTHRENNEDD 2013-14


Mae Prosiect Llythrennedd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ar y cyd Chyngor Abertawe, yn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr mewn 13 ysgol gynradd leol yn 2013-14.

Paham ymwneud 'r cynllun?


Mae sgiliau llythrennedd yn effeithio ar lawer o agweddau ar fywyd, o gyrhaeddiad addysgol a rhagolygon gwaith i les meddyliol a chorfforol, a dyheadau bywyd. Gallwch fod yn rhan o raglen sy'n rhoi cymorth ymarferol i blant ifanc, ac sy'n rhoi hwb i'w hyder a'u hunan-barch ar yr un pryd. Ennill sgiliau a phrofiad sy'n berthnasol yn uniongyrchol i lwybrau gyrfa megis dysgu, hyfforddi, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cymorth addysg, a gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad y bydd unrhyw gyflogwr yn eu gwerthfawrogi, megis gweithio mewn gweithle proffesiynol, gweithio'n rhan o fenter llywodraeth leol, ymwneud gweithgareddau allgyrsiol sydd o les i chi a'r gymuned leol, tystiolaeth o'r gallu i weithio mewn tm, cyfathrebu, ymroddiad personol, a record presenoldeb da. Ar ddiwedd y lleoliad, cewch lythyr fydd yn cadarnhau eich bod wedi cymryd rhan, gan amlinellu gwaith y cynllun. Mae modd defnyddio hyn wrth geisio am swyddi a hyfforddiant yn y dyfodol.

Adborth a gafwyd oddi wrth y rhai gymerodd ran yn ystod y gwanwyn 2012
"Dwi'n meddwl ei bod yn mynd yn dda iawn! Dwi wir yn mwynhau, ac ymddengys fod y plant yn mwynhau hefyd! Dywedodd un bachgen wrthym nad oedd yn mwynhau dod i'r ysgol cyn i ni ddechrau dod." "Dwi mor hapus 'r ddwy ferch yr wyf yn gweithio gyda nhw. Rydym yn tynnu 'mlaen yn dda iawn, ac mae wedi bod yn hyfryd i wneud ffrindiau newydd. Mae'r ysgol yn groesawgar iawn, mae'r plant yn gwrtais ac yn ymddwyn yn dda. Maen nhw'n cyffroi pan maen nhw'n ein gweld yn cyrraedd amser cinio." "Mae'r lleoliad llythrennedd yn mynd yn arbennig o dda. Mae'r rhan fwyaf o'r plant yn barod i ddysgu, ac yn hawdd eu dysgu; mae'r gweithgareddau'n syml ac yn hawdd eu dilyn hefyd."

Beth fyddaf yn ei wneud?


Byddwch yn rhan o grp o dri neu bedwar myfyriwr a leolir mewn ysgol benodol. Byddwch yn ymweld 'r ysgol am ddwy awr yr wythnos am ddeg wythnos, gan weithio'n uniongyrchol gyda phlant mewn dosbarth i gefnogi datblygiad llythrennedd.

I baratoi at y lleoliad, byddwch yn mynychu dwy sesiwn: sesiwn sefydlu gyffredinol a drefnir gan gydlynydd y cynllun, a sesiwn hyfforddi a drefnir gan Wasanaeth Effeithiolrwydd Addysgol Cyngor Abertawe.

Am beth ydym ni'n chwilio?


Rydym yn chwilio am bobl sy'n frwd am y prosiect ac sydd am wneud gwahaniaeth; pobl sy'n gallu gweithio mewn tm, ac sydd 'r ymroddiad i fynd i'r ysgol bob wythnos. Mae'n bwysig, hefyd, eich bod yn gallu bod yn gynrychiolydd da ar ran Prifysgol Abertawe. Byddwch yn llysgennad ar ran y Brifysgol a'r Coleg yn y gymuned leol, ac rydym yn dibynnu arnoch i'n cynrychioli'n dda.

Sut i wneud cais


I gyflwyno cais, anfonwch neges e-bost at Joanne Mansel COAHemployability@abertawe.ac.uk gyda'r wybodaeth ganlynol: Eich lefel astudio ar hyn o bryd Eich Coleg/Adran Mae'r cynllun yn rhedeg ddwywaith y flwyddyn, yn Semester 1 ac yn Semester 2. Nodwch, os gwelwch yn dda, a ydych yn gallu cymryd rhan yn ystod y ddau semester, neu a ydych yn gallu ymrwymo i un semester yn unig. Ni chaiff myfyrwyr sydd yn Lefel 2 ar hyn o bryd gymryd rhan ond yn ystod Semester 1, i osgoi gwrthdaro 'r asesiad terfynol yn Lefel 3. Datganiad yn esbonio paham yr ydych am gymryd rhan, a beth ydych chi'n credu y gallwch ddod fe i'r prosiect (uchafswm o 200 o eiriau). Os ydych yn ail-ymgeisio ar l cymryd rhan mewn blwyddyn flaenorol, nodwch ym mha ysgol y buoch chi'n gweithio, ac a ydych am fynd yn l i'r un ysgol.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 22 Mawrth 2013

Ar l i chi gyflwyno'ch cais


Cadarnheir llefydd erbyn i chi ddychwelyd o wyliau'r Pasg. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi ymgeisio am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (a adnabuwyd fel gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) trwy 'Darganfod' (y sefydliad gwirfoddoli yn Nh Fulton). Bydd y Coleg yn talu'r gost, ond chi sy'n gyfrifol am gyflwyno'r ffurflenni a dogfennau angenrheidiol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth mae angen i chi ei wneud, a pha ddogfennau y bydd raid i chi eu darparu. Ar gyfer Semester 1, cynhelir y sesiwn sefydlu a'r hyfforddiant yn ystod Wythnos y Glas. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr union ddyddiad ac amser cyn i chi adael am wyliau'r haf. Ar gyfer Semester 2, mae'n debyg y cynhelir y sesiwn sefydlu a'r hyfforddiant yn ystod Wythnos 14 (yr wythnos Marcio/ Adborth/ Cyflogadwyedd / Arholi Wrth Gefn). Byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr union ddyddiad ac amser ar ddechrau Semester 1.

You might also like