Download as txt, pdf, or txt
Download as txt, pdf, or txt
You are on page 1of 4

36 Awr Bythgofiadwy yn Y Wladfa

28 30 Mawrth 2005.
Cyrhaeddon yr Awyrenfa yn Nhrelew am dua 7.45 yh. Ar l daith hedfan o 2 awr o Bue
nos Aires. Wrth lanio yn Nhrelew, un or pethau cyntaf i ni weld oedd baner Y Ddrai
g Goch ar gair Croeso, wrth yr adeilad terminus.
Roedd dyn or cwmni teithio yn aros amdanynt, i gymryd ni ychydig dros 20 cilomedr
i Y Gaiman at ein Gwesty wel gwely a brecwast Gwesty Tywi. Doedd e ddim yn med
rur Gymraeg, roedd e o dras Sbaeneg, ond siaradodd e Saesneg yn berffaith [yn anf
fodus], roedd ei wraig yn medrur Gymraeg au dwy ferch oedd yn dysgu. Daeth e o Dr
elew.
Ar l hanner awr, gydar tywyllwch yn ddisgyn cyrhaeddon Y Gaiman, bach yn siom oedd
y Dref [pentref i fod yn onest tuar yr un maint Neyland, bro fy mebyd, Sir Benfr
o, gyda phoblogaeth o dua 4,000, ond yn ardal gwasgaredig] yr unig beth roeddem
yn gallu meddwl amdano oedd rhywbeth yn debyg ir dref yn y ffilm High Noon! Perchy
nwyr y Gwesty oedd Diego a Brenda, doedd Brenda ddim yn bresennol, roedd hin alla
n yn gweithio fel athrawes lawr yn Nhrelew [Cymraes wedi dysgu- oedd Brenda]. Ro
edd Diego o dras Sbaeneg ond ers priodi Brenda oedd yn dysgu Cymraeg a Saesneg.
Cawson croeso cynnes oddi wrth Diego, hanner Saesneg, a bach o Gymraeg, chwarae
teg iddo. Ystafell cyfforddus, felly setlon ni mewn, ond ar l 10 munud , daeth D
iego i weld ni, gyda gwahoddiad i fynd gydag ef i ymarferion y Cr Meibion; dim on
d 200 m. or gwesty oedd y neuadd fach. Aethon lawr, lle oedd 12 o ddynion a chr f
eistres yn barod i ymarfer, cawson croeso arbennig o dda unwaith eto, roedd 8 or
dynion yn medru siarad Cymraeg ac roedd y gweddill yn dysgu, roedd bron pawb yn
gwisgo dillad gyda rhywfath o gysylltiad Chymru! Roedd y Cr-feistres yn hyfryd i
awn [roeddwn yn meddwl trwyr amser am Davina yn Con Passionate!!]
Daeth dyn arall mewn Cymro o Benfro y Dref, [yn wir] bron yr un oedran ni, ond w
i byth wedi cwrdd ag ef. Un or athrawon bro oedd ef, win meddwl. Rhoiodd ffedog
Cymreig ir cr-feistres ac wedi diflannun gloi. Arhoson am 50 munud, dim ond yn Sba
eneg oeddent yn canu ond roeddent yn mynd i ddysgu cn Cymraeg cyn diwedd y noson.
Cerddon gartref ir gwesty sy oedd mewn tywyllwch ar l bach o storom, ac y dref wed
i collir trydan. Dod o hyd chanwyll ac aethon ir gwely, wedi blino n lan!.
Fore nesaf, codon am 7.30 yb, a chyn brecwast aethon am dro ir ysgol gyfun, wel y
Tiwt, dim ond 100m. or gwesty. Tu allan or ysgol roedd grwp o 6 merched yn eist
edd ar gamaur ysgol. Siaradais nhw yn Gymraeg, does dim llawer o Sbaeneg da fi, w
el dim i fod yn onest!! Roeddent yn eitha swil, ond yn falch iawn gael y cyfle
i siarad Cymraeg ni. Dywedon bod yr ysgol ar agor am 8 or gloch yb., felly tref
non i ddychwelyd i weld nhw ar athrawon ar l frecwast. Cawson frecwast hyfryd gyda
Diego ac roedd yn hyfryd, bach yn emosiynol i weld arwydd wrth y bwrdd brecwast
sef:
Braint yw cael dy eni yn Gymro, nid llwy arian yn dy geg, ond chan yn dy galon a
cherdd yn dy waed. dechrau da iawn ir diwrnod, ond yw hi?
Cymeron anrhegion a llyfrynnau dysgu o Gymru, llawer ohonynt oddi wrth fy ffrind
Rhiannon, Swyddog gydar Bwrdd yr Iaith, a rhoion nhw i Gabriel y prif athro Cymrae
g, i ei staff ef, merched swyddfa yr ysgol [Cymraes] ac ir Prif Athrawes, sy new
ydd ddechrau dysgu Cymraeg. Diddorol iawn oedd glywed hanes a chefnder Gabriel
o deulu Eidaleg oedd ef, ac wedi dysgu Cymraeg yn eithriadol o dda, dwin meddwl m
ae wedi ymweld Chymru sawl gwaith. Ar l gwrdd rhai or disgyblion a dysgu am hanes
yr ysgol, gadawon ar l awr. Roedd 170 o ddisgyblion yn yr ysgol bron i gyd o ge
fnder Sbaeneg [yn fy marn i,] a 130 wedi dewis i ddysgu Cymraeg.
Crwydron rownd y pentref am weddill y bore, aethon weld y bwythyn cyntaf yn y pe

ntref, yn swyddogol oedd ar gau, ond ar l y storom roedd un ffenestr ar agor, fel
ly aethon mewn [drygionus]. Diddorol tu hwnt oedd yr awyrgylch yn y bwythyn, oh
erwydd roedd yn bron yn ei gyflwr gwreiddiol, ond un peth doeddwn i ddim yn disg
wyl oedd gweld y llyfrau, ar y silffoedd, i gyd yn Saesneg. Siomedig oedd hi i
beidio cael y cyfle lofnodir llyfr gwadd, oherwydd doedd na dim pin ysgrifen gyda
ni!! [gweler yn hwyrach, yn peth arall yn ddoniol!!]
Ble nesaf, doedd na dim amser i fwyta, gormod i weld a gwneud yn gynnar yn y pry
nhawn, cerddon dros yr afon i weld Capel y Bedyddwyr ac yr ysgoldy, ond roedd po
peth dan glo [ar gau]. Maer capel wedi cael grant sylweddol i gadw hin dda. Wrth
yr afon oedd e, felly yn ddigon hawdd feddyddior y trigolion.
Yn amlwg, ir lle nesaf hy. Y Mynwent. Ond tua milltir or capel oedd e, ac ochr ar
all y pentref. Heibio yr ysbyty bach ac ar llwybr brwnt, uwchben y cwm oedd y m
ynwent. Unwaith eto, na gyd roeddwn yn gallu meddwl amdano oedd BwtHill. Mynwent
enfawr, gyda thorrwr beddau [Sbaeneg oedd ei unig iaith] yn gweithion galed iawn.
Ond wedodd ef Cymry dach chi yn Gymraeg, a hefyd, wedyn Nid wyf i yn siarad Cymrae
g. Da iawn wedi gwneud yr ymdrech.
Roedd y mynwent yn llawn o ysbryd/ion Cymreig a Chymraeg yn wir. Bron pob bedd
gyda Chymraeg ar y garreg, ac un or cyntaf i ni weld oedd:
Bu farw Lewis P Jones, gynt o Aberteifi 13 Awst 1927. Mae brodyr im ar eu taith,
mewn newydd iaith canu Efallai, sn am Sbaeneg, siwr o fod!!.
Roedd yn amlwg hefyd fod llawer o blant wedi marw cyn cyrraedd eu ugeiniau, rhai
o afiechyd neu drwy damweiniau ee.
Carreg fedd fel hyn Plant Henry a Jane Pugh o Gardd Ruffydd, Dyffryn y Camwy - Ebene
ser 11, William Henry 8 a Jane Alice 6
Y rhai foddwyd yn afon y Camwy Chwefror 9fed 1906.
Diddiorol iawn hefyd oedd weld y ffordd roeddent yn sillafu geiriau, yn enwedig
pethau fel Gorphenav. Roedd sn hefyd ar un bedd, o Gymry Cymraeg sy wedi dod lawr
o Brasil, ar l drio i sefydlu Y Wladfa yn y wlad hon yn 1859, wedi methun llwyr fel
ly penderfynon ddod lawr i ymuno ar Wladfa llwyddiannus yn Ariannin. Nid wyf in m
eddwl bod unryhw cysylltiad teuluol da fi o gwbl gydar Wladfa, oherwydd roedd fy N
had ac ei deulu yn ddi-Gymraeg, ond roedd 9 James o leiaf yn y Mynwent stori ara
ll, ymlaen!!.
Daeth merch i siarad a fi, roedd Margaret fy ngwraig yn crwydro yn chwilio am Geo
rges heb lwyddiant, Cymro dach chi meddai hi. Cawson trafodaeth hir am ei hanes hi
ar teulu. Ei ferch hi wedi priodi ddydd Sadwrn diwethaf, felly roedd hin talu tey
rnged ir hen deulu. Yn fras, tua 15 mlynedd yn l, ar l colli ei gwr, symudodd hi i f
yw yng Nghymru [Treforys], doedd e ddim yn llwyddianus, ond gwariodd hi 7 mlyned
d yng Nghymru, doedd hi ddim yn gallu siarad Cymraeg pur yng Nghymru, gormod o d
dylanwad Saesneg yn wir. Felly daeth hi gartref ir Wladfa, i fyw gweddill ei byw
yd trwyr Gymraeg [a Sbaeneg!]. [Yn anffodus wi wedi colli ei henw hi!!]. Gwarion
dros 2.5 awr yn y Mynwent lle yn llawn o emosiwn a thristwch.
Nesaf, roedd rhaid i ni gwrdd Ms Tegai Roberts, yr awdurdod a disgynnydd or un or
arweinyddion cyntaf or llong Y Mimosa i ddod ir Wladfa. [Puerto Madryn 28 Gorffenn
af 1865]. Hi oedd geidwad yr amgueddfa lleol. 3 or gloch, oedd i fod ar agor, o
nd doedd yr Amgueddfa ddim ar agor eto, felly aethon i fyny ir Canolfan Croeso y
pentref i ofyn am ganiatd fynd mewn ir bwythyn cyntaf [yn swyddogol]. Am y tro cy
ntaf [bron ers cyrraedd y pentref], doeddwn i ddim yn gallu siarad Cymraeg dim g
obaith uniaith Sbaeneg oedd y ferch yn y Swyddfa, felly yn l ir Amgueddfa.
Roedd ar agor nawr, ac roedd pobl eraill o Gymru yn ymweld r amgueddfa rhai or gogl
edd a rhai o Lantrisant, a ddoe roedd tua 15 o ferched o Lanelli yn ymweld. Caw
son trafodaeth hir a diddorol iawn gyda Tegai, roedd hin fel yr Oracl, ac yn lla

wn o ddoethineb ynglyn r Wladfa. Dywedodd hi hefyd maer Gaiman yn lle fach, - chi ywr
pr sy wedi dringo mewn ir bwythyn y bore ma bachgen drwg!! Gofynais am gysylltiadau
James yn yr ardal, a dywedodd hi bod 3 teulu James oedd yn byw yn Y Gaiman o hyd.
Mrs ERIA James [nid Eira] oedd yr un agosaf ir Amgueddfa, yn l dros y bont ar y
ffordd ir capel oedd ei thy hi.
Felly, bant ni, i ddarganfod Mrs James!!., fy Mam i ydy Eira James!! Roeddem yn
methu dod ar ddraws y ty, i ddechrau, ond aethon i weld cerrig yr orsedd, ar ein
ffordd. Braidd ar goll, ond yn yr ardal iawn stopiais pr oedd yn cerdded tuag at
on. Esgusodwch fi, wedais i yn Gymraeg win chwilio am dy Mrs Eria James, ydych y
n gwybod ble mae fe. Atebodd y dyn Yn Gymraeg ond yn araf, araf iawn Nid wyf yn s
iarad Cymraeg, a gyda bach o gymorth, yn Saesneg/Sbaeneg, oddi wrth ei wraig, wed
i cyflwyno ni at ei gefnither oedd rownd y cornel.
Roedd ei Chymraeg hi bron yn berffaith gydag acen llawn Sbaeneg, roedd hin braidd
yn swil, ond wedi dangos [i ni] y ffordd i dy Mrs James, dim ond llai na 100 m.
oedd hi. Aethon i fyny at byngalo bach ond yn hyfryd, a gwelon fenyw yn eistedd
mewn ty gwydr [conservatory!] yn darllen llyfr. Canais y gloch, a daeth y feny
w ir drws. Prynhawn da wedais i, teulu James o Gymru ydym ni. Mae wedi rhoi gwahod
d i ni fynd mewn tua 78 oed oedd hi [dwin meddwl] a chawson trafodaeth diddorol
am dros hanner awr.
Roedd ei thad-cun un or olaf i ddod draw o Gymru ar l 1906, fel pregethwr o Mountai
n Ash, nid Aberpennar, doedd hi ddim yn fodlon cydnabod yr enw Cymraeg o gwbl.
Diddorol, diddorol tu hwnt oedd ein trafodaeth gyda Mrs Eria James [ei henw wedi
dod or un or llwythau Indiaidd gwreiddiol] ac yn l Mrs James, ddim wedi cael unrhy
w broblem o gamdealltwriaeth gydag Eira!! Cymraes bur oedd Mrs James, gyda dim d
ylanwad Saesneg na Sbaeneg ar ei hacen neu eiriau hi, bron yn feiblaidd i ryw ra
ddau. Mae wedi cynnig te i ni, ond roedd rhaid i ni symud ymlaen i gael te/swper
yn Ty Te Caerdydd.
Roedd y ty te tua milltir a hanner or canol Y Gaiman, doedd na dim car da ni, fell
y roedd rhaid i ni gerdded, sdim ots, nin ffit iawn. Trac oedd yr heol ir Ty, ond
gwerth yr ymdrech, roedd y ty fel Palas yn wir. Enwog ar gyfer ymweliad Tywysog
es Diana oedd y ty nid i ni, beth bynnag, na gyd roeddwn yn meddwl amdano oedd y
bwyd Cymreig a thrafodaeth eto.
Aethon ni mewn ir palas, roedd digon o le am dros 150 siwr o fod!. Doedd na dim
pesos da ni, felly gofynais i dalu mewn dolars US [yn Gymraeg] dim problem wedodd
y ferch 6 $ US yr un am bopeth. Eisteddwn wrth bwrdd yn ymyl ir ffynnon mewnol!
, ac arhoson am ein gwledd o frechdanau, teisennau a theisennau a the a the. R
oedd ein gweinyddes [bron yr un oedran ni] o dras Cymraeg a Sbaeneg ac yn siarad
Cymraeg pur gyda acen Sbaeneg. Roedd ei thad yn ganger [gorwedd y rheilffordd] a
r yr hen reilffordd Y Wladfa, wedi mynd nawr. Unwaith eto trafodaeth diddorol ia
wn ac yn hollol trwyr gyfrwng y Gymraeg. Noson diddorol i bennu diwrnod diddorol
iawn, ond roedd rhaid i ni gerdded yn l ir Gwesty i golli y pwys ni newydd godi!
!
Gwely yn syth, a chysgon fel babis trwyr nos, roedd rhaid codi yn gynnar am ein t
aith nesaf mewn ir Andes. Cwrddon am Brenda am y tro cyntaf am frecwast, oherwydd
roedd Diego yn dost, canun gormod, neu ar l chwarae rygbi neithiwr, siwr o fod!!
Cawson frecwast gyda 2 ddyn o Sbaen, un sy wedi cystadlu yn Llangollen, maent we
di mwynhaur profiad or Gaiman hefyd. Roedd amser i ni adael, dywedon hwyl fawr i B
renda, gyda llawer o ddiolch iddi hi a Diego, ac aethon ymlaen ir awyrenfa Trelew
, gydar dyn or cwmni teithio.
Profiad anhygoel a bythgofiadwy oedd ein hymweliad byr ar Wladfa ond rhaid deall
hanes y Cymry Ariannin i werthfawrogi yr holl galedi/ymryson maent wedi dioddef,
mor bell o Gymru,, ond efallai ardal Y Gaiman ywr unig lle yn y byd, lle chin gal
lu siarad Cymraeg [a dim ond Cymraeg] heb ddylanwad Saesneg.

Beth ywr dyfodol Y Wladfa, pwy a wyr?, maer Cynulliad a Chyngor Prydeinig yn helpu
. Ond dywedodd Saunders Lewis yr un peth am Gymru, yn ei ddarlith Tynged yr Iaith
ynglyn r Cymraeg yng Nghymru, rhai blynyddoedd yn l.
Fel rhywun sy wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn, ond amser maith yn l!, roedd y profi
ad yn un llawn o deimlad ac emosiwn. Pobl dewr oeddynt, efallai bach o ramant,
hyd yn oed bach o ffolineb hefyd, ond gydar nd ac amcan i fyw eu bywydau trwyr gyfr
wng y Gymraeg heb erledigaeth or Saeson a dylanwad Saesneg. Pobl cydwybodol wedi
twyllo i ryw radd gan eu Arweinyddion a Llywodraeth yr Ariannin, doedd Y Wladfa
ddim yn debyg i Gymru, ac roedd ym mhell ffordd o Baradwys!! Ond mae nhw wedi
haeddu llwyddiant ar l eu holl ymdrechion.
Cofia mae rhai wedi symud eto ac eto ir gwaelod yr Andes, tua 600 cilomedr o Y Ga
iman/Trelew i sefydlu Cwm Hyfryd, felly cofia Esquel, Trevelin, Dolavon, Y Gaima
n, Trelew a Phuerto Madryn.
Cymru a Chymry, led led y Byd byddwch yn falch iawn o Gymry Y Wladfa, a byth ang
hofio nhw!
Clive [a Margaret] James
Y Maerun, Casnewydd, gynt o Sir Benfro.Ebrill 2005
---

You might also like