Professional Documents
Culture Documents
Religious Fasting During Examination Periods (Welsh)
Religious Fasting During Examination Periods (Welsh)
Yn ystod rhai blynyddoedd, mae'r prif gyfnod arholiadau neu'r cyfnod ailsefyll
arholiadau yn gorgyffwrdd (o leiaf yn rhannol) â Ramadan, neu un o'r cyfnodau eraill
o ymprydio crefyddol. Yn anffodus, nid yw'n bosibl i'r Brifysgol newid dyddiadau'r
cyfnodau arholiadau oherwydd eu bod yn cael eu pennu ymhell o flaen llaw, a byddai
unrhyw newidiadau'n cael effeithiau sylweddol iawn ar ddigwyddiadau eraill yn y
calendr academaidd blynyddol.
Mae'n bosibl y byddai'n well gan fyfyrwyr sy'n ymprydio am resymau crefyddol beidio
â sefyll arholiadau yn y prynhawn yn ystod cyfnod yr ympryd, oherwydd na fydd
myfyrwyr yn bwyta amser cinio. Mae'n bosibl na fydd effaith ar arholiadau'r bore
oherwydd bydd gan y myfyrwyr sy'n ymprydio y cyfle i dorri'r ympryd cyn y wawr,
felly ni fyddai hyn yn wahanol i ddiwrnodau eraill.
Mae'n anochel y bydd unigolion yn wahanol o ran i ba raddau y maen nhw'n profi
newidiadau o'r fath neu beidio. Mae hyn yn dibynnu ar eu metaboledd unigol. Yn
naturiol, byddant yn tueddu i brofi mwy o anawsterau gwybyddol yn hwyrach yn y
dydd.
Ni fyddai'r Brifysgol yn dymuno dweud wrth fyfyrwyr crefyddol sut y dylent drin y
sefyllfa hon. Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo ein myfyrwyr, mae'r Brifysgol wedi
ceisio cyngor ac wedi nodi'r opsiynau canlynol:
Mae'r GIG yn rhoi canllaw ar fyw bywyd iach a Ramadan, y gellir dod o hyd iddo
yma.
Os ydych yn teimlo nad ydych yn gallu sefyll arholiad neu bod yr ympryd wedi
effeithio'n sylweddol ar eich perfformiad, gallwch wneud cais i ohirio eich arholiad yn
unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu.
Sylwer y bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf sydd wedi cael yr hawl
i ohirio eu harholiadau, sefyll yr arholiadau yn ystod y cyfnod arholiadau nesaf ar
gyfer y modiwlau dan sylw. Yn achos arholiadau yn ystod mis Awst, y cyfnod asesu
nesaf fydd pan gaiff y modiwl ei asesu nesaf yn ystod y sesiwn academaidd
ganlynol.