Professional Documents
Culture Documents
2019 Ramadan Guidance For Managers (Welsh)
2019 Ramadan Guidance For Managers (Welsh)
Mae'r canllaw hwn i reolwyr a gweithwyr eraill sy'n gweithio gyda Moslemiaid a allai
fod yn ymprydio yn ystod mis Ramadan. Ei ddiben yw gwella dealltwriaeth am
arferion Ramadan, ac esbonio sut y gall rheolwyr a chydweithwyr gefnogi staff a
myfyrwyr Moslemaidd sy'n ymprydio.
Ramadan yw nawfed mis y calendr lleuadol Islamaidd. Nid mis sefydlog mo hwn fel
calendr y gorllewin, ac mae'n dechrau pan welir y lleuad. Ymprydio yw pedwerydd
piler Islam. Yn ystod y mis hwn, bydd Moslemiaid defodol yn rhoi'r gorau i fwyd a
diod, ysmygu, ac anghenion corfforol eraill pan fydd hi'n olau dydd. Mae Ramadan
hefyd yn gyfle i Foslemiaid buro eu henaid, canolbwyntio unwaith eto ar grefydd ac
arfer ymataliaeth. Byddant yr ymprydio am 29 neu 30 niwrnod gan ddibynnu ar yr
adeg y gwelir y lleuad.
Yn ystod Ramadan, bydd Moslemiaid yn deffro cyn y wawr am bryd o fwyd o'r enw
'Suhur.' Mae'r ympryd yn dod i ben pan fo'r haul yn machlud, ac 'Irtar' yw'r enw am
hyn (torri'r ympryd). Bydd y rhan fwyaf o Foslemiaid yn torri eu hympryd gyda datys a
dŵr.
Mae'n orfodol i bob Moslem sy'n iach, yn oedolyn, sydd â chartref ac sydd o'i iawn
bwyll ymprydio. Gall y canlynol gael eu heithrio: plant nad ydynt eto'n oedolion, yr
henoed a'r rhai hynny sydd ag afiechydon cronig, menywod beichiog a menywod
sy'n bwydo o'r fron (a all ohirio'r cyfnod ymprydio am gyfnod hwyrach) a'r rhai sy'n
sâl. Gall teithwyr hefyd ohirio eu cyfnod ymprydio a menywod sydd ar eu mislif.
Mae'n bosibl y bydd unigolion sy'n ymprydio yn teimlo'n fwy blinedig nag arfer
oherwydd diffyg bwyd ac oherwydd bod eu patrymau cysgu arferol wedi newid. Gall
rhai hefyd deimlo ychydig yn ben ysgafn wrth iddi hwyrhau.
Trafod trefniadau Ramadan cyn i'r mis ddechrau gyda'r aelod o staff
Gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer y diwrnod gwaith, er enghraifft,
dechrau yn hwyrach neu adael yn gynt, neu'r ffordd arall; cymeradwyo egwyl
ginio fyrrach
defnyddio gwyliau blynyddol i addasu patrymau gwaith yn ystod Ramadan
rhoi amser i gynnig gweddïau yn ystod y dydd. Gallai'r rhain fod yn ddwy neu
dair gwaith y dydd am oddeutu pum munud, a gellir gweddïo ym Mosg y
Brifysgol, neu mewn swyddfa briodol/ man preifat bach.
1
Ceisiwch osgoi cynnal digwyddiadau busnes neu gymdeithasol lle gweinir
bwyd yn ystod mis Ramadan. Mae gan Foslemiaid sy'n ymprydio yr hawl i
fynd i ddigwyddiadau lle gweinir bwyd, fodd bynnag, gwerthfawrogi pe baech
yn rhoi gwybod i'r aelod o staff ymlaen llaw.
Yn ystod mis Ramadan, nid yw'n briodol i chi ddisgwyl i staff Moslemaidd ymuno â
chi ar gyfer pryd bwyd busnes. Efallai y bydd hyn yn gwneud i staff Moslemaidd
deimlo'n lletchwith yn ogystal ag eraill yn y cyfarfod a allai ofyn pam nad yw aelod o
staff yn cael bwyd.
Gall rhoi cynnig ar ymprydio fod yn ffordd dda i gydweithwyr nad ydynt yn Foslemiaid
ddeall a gwella eu dealltwriaeth o Ramadan.
Mae'r 'Iftar' (torri'r ympryd ar fachlud haul) yn gyfnod pan fo ffrindiau a theulu'n dod
ynghyd i fwynhau bwyd a diod. Mae Moslemiaid yn croesawu pobl nad ydynt yn
Foslemiaid i ddod i ymuno â nhw am hyn. Cynigir Iftar drwy'r mis ym Mosg y
Brifysgol ac ar Gampws y Bae yn ystod Ramadan.
Caiff diwedd Ramadan ei ddathlu gyda gŵyl Eid-ul Fitre, ac mae'n debygol y bydd
staff Moslemaidd yn gofyn am wyliau blynyddol o'r gwaith am y cyfnod hwn. Ni ellir
cwblhau dyddiad penodol ymlaen llaw ar gyfer Eid oherwydd ei fod yn dibynnu ar
weld lleuad newydd. Ceisiwch gymeradwyo ceisiadau am wyliau blynyddol cymaint â
phosibl yn ystod y cyfnod hwn. Eleni caiff yr ŵyl ei dathlu ar naill ai 6 neu 7 Mehefin.
Rhestr termau
2
Rhagor o wybodaeth ddefnyddiol:
Mae'r GIG wedi llunio canllaw defnyddiol i Ramadan iach gydag arweiniad ar arfer
gorau drwy gydol y mis.
http://www.nhs.uk/livewell/healthyramadan/Pages/healthyramadanhome.aspx
http://www.ramadan.co.uk/RamadhanHealth_Guide.pdf