Download as docx, pdf, or txt
Download as docx, pdf, or txt
You are on page 1of 43

DAN Y FAWD

Sgript - Angharad Llwyd

Cerddoriaeth – Ynyr Llwyd

Mae cylch syrcas mawr yng nghanol y llwyfan, gyda seddi


cynulleidfa’r syrcas bob ochr iddo. Bydd wyneb clown mawr ar y
cefn gyda llygaid siâp logo instagram sy’n gallu troelli– (gall y gwallt
ymdebygu y mymryn lleiaf i Johnston/Trump). Yn nes i’r blaen, ceir
stondin/man cyfarfod ar y dde, a swyddfa’r syrcas ar y chwith i’r
cylch.

Opsiwn: (Cyn dod i mewn, bydd gwahoddiad i’r gynulleidfa ymuno â


thudalen facebook y sioe – gan y bydd y negeseuon ‘propaganda’ yn
cael eu defnyddio arno yn ystod y perfformiad.)

Mae ambell i gymeriad/anifail syrcas yn ymarfer ar y llwyfan ac yn y


coridor wrth i’r gynulleidfa ddod i mewn. Jyglo/cartwheels a.y.yb

Bydd ‘Tim o’r Nant’ yn croesawu pawb wrth iddynt gyrraedd y theatr
– (ac yn chwilio am ei fwnci yr un pryd.)

Agoriad (yn ystod intro y gân):

Sion y Bodiau – (pre-record) Foneddigion a boneddigesau,


byddwch yn barod i gael eich syfrdannu, gafaelwch yn dynn... croeso
i’r syrcas!

1
2
Cân 1 – WEL AM SYRCAS
(cynnwys symudiadau acrobtig gan y ‘perfformwyr’)

Wel am syrcas!! Sôn am syrcas!!


Yr atsain o gylch y babell hud -
Swyn, lledrith, ac ambell i felltith,
Tyrd i weld y syrcas orau’n y byd...
Y syrcas orau’n y byd!

Dy droed ar y rhaffa’, a syllu mae’r dyrfa


Ar flaenau eu seddi’n syn,
Yn aros am wyrthia, gwirioni ar dricia,
Wyt ti’n barod i gydio’n dynn?
Cy-dia yn dynn…

Cyt:
Wel am syrcas!! Sôn am syrcas!!
Yr atsain o gylch y babell hud.
Swyn, lledrith, ac ambell i felltith,
Tyrd i weld y syrcas orau’n y byd...

Ond paid â syrthio, nag edrych i lawr


Rhaid i ti gredu’n dy ffawd...
Paid gollwng dy afael - Neu ti fydd ‘dan y fawd’!

Mewn môr o gelwyddau, yn llywio’n meddyliau,


Mor hawdd yw dylanwadu dy fyd.
Rhith sy’n dy dwyllo, ’sa well i ti bwyllo
A’i celwydd ydi’r cyfan i gyd?
Celwydd i gyd…

***

Paid gollwng gafael – neu ti fydd ‘dan y fawd’ (x 4

Sion y Bodiau yn amlwg ym mlaen y llwyfan. Symudiadau syrcas,


anifeiliaid, a digon o hwyl.

3
Golygfa 1: Yn y Syrcas

Sion, Tim, Sionyn, Owain,Catrin, Cêt, Elinor, Swsi, Sara

Y ‘gynulleidfa’ i eistedd yn seddi’r syrcas, a’r ‘perfformwyr’ i’r cylch.


Swsi Stats yn rhoi bawd i fyny fod pawb yn barod.

Sion Ia wir!! Croeso mawr i chi i Syrcas orau’r Berfeddwlad –


efo fi, y dawnus a’r golygus Sion y Bodiau wrth y llyw!
Da chi mewn dwylo da gyfeillion – dwylo mawr medrus…
Felly - codwch y bodia ‘na! (y gynulleidfa codi bawd a
chymeradwyo.)

Tim (sibrwd o’r ochr) Syr! Syr, dwi di colli’r mwnci!

Sion (Yn ei anwybyddu. Wrth y gynulleidfa...) Ac yn gynta i’ch


diddanu heno - wedi dysgu popeth mae o’n ei wybod gen
i ei Dad wrth gwrs– rhowch groeso mawr i fy mab –
yr anhygoel Sionyn!

Sionyn (o dan ei wynt) Diolch Dad. Peidiwch â choelio popeth


mae o’n ddeud wrtha chi! Reit - Amdani gyfeillion!

Cerddoriaeth wrth i Sion a’i berfformwyr ddechrau jyglo/chwifio


rhubannau. Acrobatics rhubannau. Catrin a Cêt yn aros y tu allan ac
Owain yn cyrraedd yn hwyr … Y syrcas yn parhau yn y cefndir yn
ystod hyn.

Catrin O lle ti di bod?! Ti’n hwyr!

Owain Fedra i’m jyglo bob dim Catrin! Ma’r defaid yn dod ag ŵyn ffwl
sbid …

Catrin Ond chdi sgin y tocynna – tyd!

Chwilio ei bocedi. Tynnu cortyn bels a phethau fferm allan o’i


bocedi, ac yna’r tocynnau.

Owain ‘Ma nhw.

Catrin yn eu bachu a mynd i roi’r tocynnau i Swsi.

Owain Croeso.

Catrin (Wrth Cêt, sy’n darllen) Cêt? Ti’n dwad ta be?

Cêt Os oes raid.

4
Y tri yn mynd i eistedd i flaen y gynulleidfa. Mae Sionyn wrthi’n
perfformio i gerddoriaeth gyda dawnswyr, caiff ei glymu yn y
rhubannau, a gall eu datod i ddod yn rhydd. Cawn dric cysgod
rhubannau y tu ôl i ‘len’, ‘cerdded y rhaff’ ar y rhuban neu debyg
(sydd ar fwrdd go iawn) a’r gynulleidfa yn cael eu syfrdanu.

Elinor Dwi siwr fod o’n ffansio fi, mae’n sbio fforma bob munud.

Cêt Mae o’n anhygoel.

Owain Sa chi’n gweld y petha fedra i neud efo cortyn bêls…

Sionyn yn gorffen a ‘bowio’.

Sion Diolch Sionyn! Os da chi’n licio be da chi’n weld – y sioe hynny


yw, nid jest y fi – rhowch fawd i fyny i ni ar y we!

Sionyn Da chi’n gwbod y drefn –y mwya o fodia geith y set ora!

Owain Mai fatha elecshwn yma!

Sion Tocyn arbennig i’r ‘ffan’ efo’r mwya o fodiau wsos yma.

Elinor Bron i mi gal y mwya o fodia wsos dwytha – yn do Sara?

Sara Do, bron iawn!

Tim yn gneud stumiau o’r ochr – dal methu ffindio’r mwnci.

Sion Mae o’n dawnsio isho dod ar y llwyfan, felly heb oedi dim,
rhowch groeso i Tim a’r enwog Jeremi!

Tim (yn panicio am y mwnci) Ym, na – dwi di colli….

Ar yr eiliad yma, mae mwnci sydd wedi bod yn cuddio yn y


gynulleidfa yn baglu ei ffordd at Tim.

Tim O lle goblyn fues di Jeremi? Ista ar yr hen ffens ‘na eto?
Odd Jeremi’n arfer bod yn dipyn o rebal yn ei ddydd chi.
Ffwr a ni ta. Barod Jeremi?
Rwtin press-ups/roli poli/acrobatic y mwnci a Tim. Y gynulleidfa’n
chwerthin yn uchel.

Sion Diolch Tim a Jeremi!! Rwan, y foment ‘da chi wedi bod yn
disgwyl amdani. Ie, dyna chi (drum roll) ‘Dan y Fawd’!

Sionyn Lle bydd un ohonoch chi yn cael eich hypnoteiddio yma ar y


llwyfan (Yn ddistaw wrth ei Dad) Gai neud o tro ma Dad? Plis!

5
Sion (yn sibrwd) Nachei – ti ddim yn barod, symud.(Cerddoriaeth)
Pwy fydd Dan y Fawd heno ta? Oes ‘na wirfoddolwyr?

Sara Elinor – coda dy law!

Owain Sna neb yn cael eu hypnoteiddio go iawn siwr, actio ma nhw.

Catrin Gawn ni weld am hynny – (yn rhoi ei llaw i fyny)

Cêt Catrin…! Be ti’n neud?!

Sawl un yn rhoi eu dwylo i fyny. Mae Sion yn pwyntio at Catrin.

Sionyn Ti – ie ti, be ydi dy enw di?

Catrin Catrin.

Sionyn Iawn, Catrin, tyrd i’r canol.

Cymeradwyo wrth i Catrin fynd i ganol y cylch.

Sion Reit Catrin…paid â bod yn nerfus – mi edrycha i ar dy ôl di.


Barod?

Catrin Barod... dwi’n meddwl!

Sion Edrych i fyw llygaid y clown, a phan fydda i’n cyfri i lawr o dri,
mi fyddi’n syrthio i drwmgwsg mawr. 3,2,1

Ar hyn mae llygaid y clown yn dechrau troelli, a Sion yn codi ei


deyrnwialen (sy’n ymdebygu i siap y lythyren f yn logo facebook)-
ac yn ei tharo deirgwaith cyn ei phendilio o flaen Catrin. Catrin yn
cysgu, Sionyn yn ei throi i wynebu’r gynulleidfa.

Sion Ydi ma hi’n cysgu’n sownd!! Braich i fyny Catrin! Beth am i ti


ddawnsio i ni?

Catrin yn ufuddhau. Lot o’r gynulleidfa yn ffilmio.

Sion Rwan ta, pan glywi di’r gerddoriaeth – dwisho i ti feddwl mai ti
sy’n chwarae’r ffidil…

Cerddoriaeth glasurol a Catrin yn smalio chwarae’r ffidil)

Sion Am dalent!! Ardderchog! A phan glicia i mysedd, mi fyddi di’n


credu mai dafad wyt ti…’clic’.

Catrin yn dechrau brefu a chnoi.

Elinor (yn ffilmio) O mai god ma hwn yn priceless.

6
Sion Fedrwch chi gredu’r peth? Catrin fach, yn pori’n braf! Fel y
gwelwch chi - mai’n llwyr o Dan y Fawd!!! (Clap)

Owain No we!

Cêt Stopiwch ffilmio! Dio’m yn deg.

Sion Dyna ddigon o gnoi cil am heno – sa well i ni ei deffro hi. Ar ôl


tri mi fyddi di yn ôl efo ni unwaith eto, 1,2,3! (yn taro ei
deyrnwialen) Rhowch glap i Catrin!

Sionyn (wrth ei Dad) Oedd raid gneud gymaint o ffwl ohoni?

Catrin yn deffro, wedi dychryn fod yr hypnosis wedi gweithio. Y


gynulleidfa yn cymeradwyo. Owain yn gwenu fel giat ar Catrin.

Catrin Be sy? Be nes i?

Owain (wrth ei fodd) Dim byd… meee.

Sion A dyna ni –Croeso i chi gael llofnod neu selffi bach efo fi Sion
y Bodiau cyn mynd adref – ma nhw werth pres chi! A chofiwch
– rhowch chi fawd i ni, a gewch chi ddau yn ôl gen i! Bawd i
fyny i chi gyd!

Cymeradwyo wrth i Sion fynd at Swsi Stats ar ochr y llwyfan.

Sion Swsi blodyn – sut nes i?

Swsi Gret, Syr. Penigamp, fel arfer.

Sion Odd honna’n sell-out heno?

Swsi (yn nerfus) Ym.. ym... oedd Syr, 250 o bobl, 23 heb fod o’r
blaen – a 97 yn fwy o fodia ar y weplyfr hyd yma.

Sion Diolch Swsi – mmm ti di gneud rhwbeth i dy wallt?

Swsi (yn swil) Ermmm.. naddo pam be sy?

Sion Siwtio ti.

Swsi Yyy reit, diolch syr. (Swsi’n brysio oddi yno)

Sion She loves me! Allai’m helpu fo! Ma pawb yn lyfio fi!

Cerddoriaeth wrth i Sion godi ei bedwar bawd ar y gynulleidfa, a


sawl un o’r gynulleidfa yn heidio i’r ciw. Bydd Thomas Gee yno yn
tynnu lluniau o’r bwrlwm.

7
Cân 2 – SGRIBL BACH A SELFFI

Sion dwi, a wir i chi


Mae pawb drwy’r wlad yn fy ’nabod i,
Yn gweiddi “Waw! Dau fawd ar bob llaw!”
Does neb r’un fath a fi!

Dwi’n ‘living the dream’ weithia’n ‘drama queen’


A phawb ddaw i’r syrcas yn crafu tîn
Fel’na mai, a dwi’m yn gweld bai –
Mae nhw’n amlwg isho bod yn fi!

Pob Royal Welsh a Steddfod yr Urdd,


Mi ddoi â’r syrcas draw atoch chi…
A bydd y feiro rhwng bob bawd –
Sgribl bach a selffi!

Dwi’n dipyn o foi, does dim osgoi


Bob tro dwi’n gyrru heibio, mae pennau yn troi
“O Sion! Ti’n star, sbectols haul yn y car..
Dani isho bod yn chdi!”

Dwi’n feistr penigamp


Yn seren ar y sîn
Yn heart-throb i’r holl genod
‘Sion y lyf mashîn!’ (paid a rwdlan)
Ond ma nhw’i gyd mor keen (as if)

Gwrandwch chwcs, mae gen i’r lwcs


Mae’r wep yma’n cadw fi’n y gwd bwcs!
Dwi’n enwog iawn, fy syrcas sydd lawn
Dwi’n caru bod yn fi!

Pob Royal Welsh a Steddfod yr Urdd,


Dowch chi yn un haid ata i!
A bydd y feiro yn fy llaw… (Bydd ma siwr!)
A byddwch chitha’n gweiddi ‘waw – (Go brin!)
Dani’n lwcus ar y naw….
i gael Sgribl bach a selffi!”

Ar ddiwedd y gân, mae cynulleidfa’r syrcas yn gwasgaru.

8
Golygfa 2: Swyddfa y tu allan i’r Syrcas

Sion, Tomos

Daw Tomos Gee a’i gamera at Sion y Bodiau sy’n cerdded at ei swyddfa.

Tomos Sgin ti funud Sion – i mi gael pwt bach i’r papur…

Sion Papur newydd? Ti’n dal i drafferthu gneud rheini?

Tomos Gwell na’r ‘fake-news’ ‘ma. Mond y gwir prin gei di gan Wasg
Gee.

Sion Meddwl fysa dy bapur di’n llawn efo’r etholiad mawr ar y gweill.

Tomos Pobl di laru clywed am syrcas y politics – Isho rhywbeth


sgafnach ydw i - a gan eich bod chi’n mynd o nerth i nerth,
meddwl y bysa chi’n licio’r hysbys.

Sion Unrhywbeth am chydig o gyhoeddusrwydd Tomos – (yn


powsio i’r camera) lle tisho fi?

Tomos Pobl yn heidio yma o gryn bellter Sion – gynnoch chi dipyn o
ddilynwyr.

Sion Bron i bum mil ar instaffan – mwy ar y weplyfr. Syrcas orau’r


Berfeddwlad – a thu hwnt…dwi’n dipyn o ddyn busnes, fel y
gweli di.

Tomos Ond wedi clywed si ydw i, Sion, nad ydi’r gweithwyr o’r un farn,
ddim yn cael fawr o barch gen ti - eu trin fel baw, medda un...
a’r merched, wel…

Sion Pwy ddudodd ffasiwn beth? Lle glywis di hynna?…

Tomos Dim ond deud be dwi di glywed – y gwir prin, ynde Sion.

Sion Clwydda. Rŵan, cer o ngolwg i – chdi a dy bapur ceiniog a


dima…

Tomos yn gadael y swyddfa - Sion yn syllu’n flin ar ei ôl.

9
Golygfa 3: Syrcas

Owain,Catrin, Cêt, Elinor, Sara.

Rhai ar eu ffonau symudol yn chwerthin ar fidio Catrin yn actio dafad.


Daw Owain, Catrin a Cêt yno i’w canol.

Owain (wrth Catrin) Meee!

Catrin Stopia!

Cêt Rho gora iddi Owain, bechod. Ma’n ddigon fod pawb arall yn
tynnu ei choes hi.

Owain Ei bai hi ydio - hi oedd isho bod Dan y Fawd!

Cêt Gneud ffwl ohona ti o flaen pawb. Rhag cywilydd iddo fo.

Catrin Diom ots, jest hwyl dio. Fydd pawb di anghofio erbyn ddown ni
wsos nesa.

Cêt Tisho dod eto wsos nesa?!

Catrin Y syrcas ’di’r lle i fod…

Owain Medda pwy?

Catrin Medda pawb ar hwn (ei ffôn)

Cêt Ers pryd ‘da ni’n dilyn y dorf…

Owain Fel haid o ddefaid…

Catrin Owain! Ti’n obsesd.

Daw Elinor a Sara atynt.

Elinor Dyma hi. Mee

Sara Ti dal i bori?

Cêt Stopiwch.

Elinor Be? Ti’n enwog – ma’r holl frefu di mynd yn feiral.

Catrin Wel o leia dwi di stopio brefu– ti dal wrthi!

Owain Wei wei, ledis.

Cêt Anwybydda nhw Catrin.

Owain (gweld Elinor yn powtio) Isho sws ti?

10
Elinor Dim gen ti. Isho bodia dwi!

Sara Mai’n trio cael y tocyn arbennig ‘na, – bron iddi gael y mwya o
fodia wsos dwytha.

Cêt Am neud be? Rhoi stop ar newyn? Sortio newid hinsawdd?

Elinor Dyyy – paid â bod yn sili. Gai lods o fodia jest am y ngwyneb i!
‘Mond ryw gant bawd arall – a fi geith y tocyn!

Catrin (yn sarcastic) O waw!!

Merch 1 Da ni’n dilyn chdi Elinor – ti’n amesing.

Elinor Dwi MOR boblogaidd!!

Merch 2 Ti siwr o gael y tocyn.

Elinor Gwbod... selffi? (tynnu llun)

Merch 1 Bawd i fyny i hwnna!

Elinor Diolch! Oo mai god... bawd i fyny gan Sionyn hefyd! Aaa!!

Elinor a Sara yn cerdded i ffwrdd wedi cyffroi.

Catrin Sad.

Cêt Uchelgais bywyd i rai – cael ‘y tocyn arbennig’!

Owain Ella dyna’i selffi ohonaf fi’n carthu’r sied bore fory – yn gachu i
gyd.

Catrin Sa neb isho gweld y ‘chdi go iawn’ siwr…

Owain Nagoes?

Cêt Sioe dio’i gyd.

Owain Mynadd. Trio bod yn ‘best in show’ rownd y ril!

Catrin Ma pawb wrthi! Yn dilyn ei gilydd.

Owain Fatha defaid. Mee

Catrin Stopia!

Cêt Pawb yn smalio bod yn rhywun arall. Pwy ydyn nhw go iawn
dwa?

11
Cân 3 – YN Y DRYCH
Dy lun ar y we, pwy wyt ti go iawn?

A phwy sy’n dy wylio, ydi’th fywyd yn llawn?

Dy luniau ffug yn rhes o gelwydda’

Ond tu ôl i’r sgrin, ti’n ysu am ffrindia’.

Ar - ben dy hun, pwy wyt ti go iawn,

Oes gen ti ddilynwyr, yw’th gwpan yn llawn?

Dy ddelwedd ffals, ti’n twyllo dy hun,

A’th fywyd yn sioe ar y sgrin.

Ond paid â mentro tynnu’r masg sy’n cuddio’r gwir

Paid datgelu’r ti go iawn, na dangos unrhyw gur

Ar y sgrin – mae dy fyd mor berffaith ac mor wych,

Ond pwy ti’n ei weld yn y drych? ...(Pwy ti’n weld?)

Yn y drych!

Yng nghanol y dorf, a dy ben yn dy blu

A neb yn dy nabod – y cymeriad hy’

Ti’n bortreadu o dy hun...

Pwy ti’n weld... x3

12
Golygfa 4: Stondin

Sionyn, Cêt

Sionyn yn dal Cêt cyn iddi fynd am adra.

Sionyn Hei odd dy ffrind yn ok? Ar ôl y busnes brefu ‘na ... – ma na


fidios dros hwn. (ffon)

Cêt Mai’n ok, dwi’n meeeddwl! Hi roddodd ei llaw i fyny de. Ond
ma’n dychryn fi – y busnes hypnoteiddio ma.

Sionyn Jest sgil teuluol dio, a fi fydd yn cael gwneud cyn hir.

Cêt Be wnei di ta? Pan fyddi di’n gallu rheoli meddylia?

Sionyn Dwn im... gofyn am rifa banc pobl? Joc. Gneud i rywun
ddisgyn mewn cariad efo fi ella!

Cêt (saib swil) Allet ti neud petha mawr – efo dylanwad felna.

Sionyn Fatha be?

Cêt Cael pobl i helpu’r tlawd, neu stopio defnyddio plastic...

Sionyn Ti di bod yn darllen gormod am yr etholiad ‘ma!

Cêt Efo meddylia pobl yn dy ddwylo, ma unrhywbeth yn bosib!

Sionyn Do’n i ddim di meddwl safio’r byd ‘de?...

Cêt Ddim yn syth ella! Ond allet ti neud lot o ddaioni. Allet ti neud
lot fawr o ddrygioni hefyd.

Sionyn Be ti’n feddwl?

Cêt Pwer yn gneud pobl yn farus.

Sionyn Fyswn i byth yn gwneud dim byd drwg siwr.

Cêt Dim chdi ella. Ti’n foi iawn. Ond be am dy Dad?

Sionyn Dad? Mae o’n medru mynd dros ben llestri weithia...

Cêt Hen bryd i ti gael dy gyfle dduda i – cyn iddo fo fynd yn rhy bell
efo’i syniada gwirion.

Sionyn Os ti’n deud! Mond os gai dy hypnoteiddio di gynta!

Cêt Gei di mohona i ‘Dan y Fawd’ – byth!!

Gadael Sionyn yn pendroni – yna mae’n mynd i’r swyddfa.

13
Golygfa 5: Swyddfa

Sionyn, Sion, Tim, Gweithiwr,Tomos (Jeremi)

Sion yn ei swyddfa, yn cyfri ei bres ac yn edmygu ei hun yn y drych.


Mae’n tynnu ei ‘dei-bo’ a’i siaced ac yn eistedd i ymlacio.

Tim Hei bos, ella’i bod hi’n bryd i chi riteirio – odd Sionyn rel boi
efo’r rhaffau ‘na!!

Sion Hmmm.

Daw Sionyn i mewn.

Sionyn Dad – pryd gai ddechra hypnoteiddio? Dawn teuluol, ydio de.. a
fi di’r nesa yn y teulu!

Sion Ia dawn teuluol – sgil nes i ddysgu gan fy nhad pan oedd o’n
syrcas-feistr s’lawer dydd...

Sionyn (yn frysiog llawn cyffro) Dwi wedi dysgu’r geiria a bob dim!
“Edrych i fyw llygaid y clown, a phan fydda i’n cyfri i lawr o dri...

Sion (yn gwenu) Mae ’na fwy iddo fo na hynny...

Sionyn Oes? Be?

Sion Ahaa – dyna’r gyfrinach…cynhwysyn ola’r swyn...

Sionyn Cyfrinach? (troi at Tim) Pa gyfrinach?

Tim (amlwg ddim yn gwybod) Paid â gofyn i fi!

Sion Dim ar chwara bach mae rhywun yn cyrraedd y top.

Tim Y big top! ‘Swn i’n lyfio gallu hypnoteiddio pobl... cael rheoli
meddylia fela!

Sionyn Ti methu rheoli dy fwnci – heb sôn am ddim byd arall.

Daw gweithiwr syrcas i mewn i dorri ar eu traws.

Gweithiwr Ym… Syr, sgiwsiwch fi, ond tydw i ddim wedi cael fy nhalu am
syrcas wsos dwytha, na’r wythnos gynt…

Sion A?

Gweithiwr Ond…

Sion Gei di dy dalu pan ti’n haeddu cael dy dalu. Rŵan, hegla hi.

Tomos Gee y tu allan – yn bachu ar y gweithiwr am sgwrs gudd…

14
Sionyn Oedd raid, Dad?

Sion Iawn i bawb sylweddoli pwy di’r bos rownd y lle ‘ma!

Sionyn Rhedeg syrcas ydach chi, nid rhedeg y blwmin wlad.

Sion Os fedra i gael trefn ar ffyliaid y syrcas ’ma a’r anifeiliaid twp
acw, chwara plant fysa rhedeg y wlad i mi, mêt.

Tim Fedrai weld chi rwan – ‘Sion y Bodiau – Aelod Seneddol’

Sionyn Ac efo gymaint o ddilynwyr - synnwn i damaid na fysa chi’n


ennill!

Tim ‘O’r Syrcas i’r Senedd’

Sionyn a Twm yn chwerthin ar ben y syniad.

Sion (yn pendroni) Os medra’i ddenu cymaint o fodiau – mi fedra’i


ddenu hynny o bleidleisiau, hefyd!

Tim Da chi’n dallt dim am bolitics, mwy na finna!

Sionyn Ti’n nabod rhywun sydd?

Sion Ddim dallt politics di’r gamp,– ond perswadio pobol eich bod
chi’n dallt. Goelith pobol unrhyw rybish.

Sionyn Da chi ’rioed o ddifri am…

Sion Pam lai?!

Sionyn Allech chi ddod a gwell telera byw i’r ardal ‘ma! Pres i
ysgolion... swyddi call...

Sion Pwy sy’ di bod yn dy ben di?! Meddwl am y pwer dwi, am y


statws – a’r pres wrth gwrs. Dim ond mater bach o dwyllo’r
cyhoedd ’mod i’n gwbod be dwi’n neud.

Tim Sut??

Sion Dwn i’m os glywais di… ond dwi’n giamstar am hypnoteiddio…

Sionyn Hypnoteiddio pobol i fotio i chi?!

Tim Na!

15
Cân 4 – MP

Efallai nad dwi’n gwybod fawr o ddim am redeg gwlad


Ond fi di’r arbenigwr, am lwyddo’i ddwyn perswâd!
Fy sgiliau hypnoteiddio ddaw yn handi i’ch twyllo chi
I ddenu’r fôts i gyd, a fy ethol yn MP!

Yn fuan, fe fydd pawb o dan fy mawd,


Dwi’n gwybod erbyn hyn mai dyma’n ffawd!
Yn feistr ar bob un - A phawb yn tynnu llun
Arweinydd mwya cyfrwys welodd neb ar flaen eu sgrin…

Mae'r amser wedi dod i mi feddiannu'r ardal hon,


A swagro rownd y lle ma ‘fo ‘roset’ ar draws fy mron!
Bydd pawb yn ufuddhau yn daeog i ngorchmynion i,
Pan fyddai’n cael fy ethol yn MP.

Yn fuan, fe fydd pawb o dan fy mawd,


Dwi’n gwybod erbyn hyn mai dyma’n ffawd!
Rhowch groes wrth fenw i, i’ch llywodraethu chi
Dwi’n addo bydd pob dim yn well o dan f’awdurdod i.

’Mond rhaffu ambell gelwydd i’ch perswadio chi sy raid


A rhannu addewidion ar gyfryngau yn ddi-baid,
Denu pawb i’r syrcas, yna cyfri lawr o dri!
Er mwyn fi gael fy ethol yn MP

Ar fy llw, mae dyfodol gwell i’w gael…


Os rhowch chi’ch pleidlais i mi yn ddi-ffael….

Cyn hir, bydd gen i’r pŵer i reoli’r werin dlawd


Mi wna’i yn siwr y bydd pob un wan Jac o dan y fawd
O’r syrcas draw i’r senedd – fe wna’i unrhyw beth i chi
Pan fyddai’n cael fy ethol yn MP. Yn MP!

16
Golygfa 6: Stondin
Sionyn, Tim, Elinor, Sara, Hen wraig, Hen ŵr

Sionyn a Tim yn eistedd wrth fwrdd yn pendroni.

Tim MP wir, na’r cwbl sydd gyno fo ar ei frens ers dyddia.

Sionyn Hypnoteiddio i gael fôts – ma’r peth yn anfoesol. Taswn i ond


yn gwybod sut ma’i stopio fo.
Daw Elinor a Sara mewn i dorri ar eu traws...

Elinor O mai God sbia pwy sy ma. Sut dwi’n edrych?

Sara Ffab.

Elinor (yn fflyrti) Ow, ym haia....be ti’n neud yn fama?

Sionyn Dwi’n gweithio yma yn dydw.

Elinor O ia. Jest ym.. meddwl os ti’n gwybod pwy sy’ ar y blaen i gael
y tocyn arbennig i’r syrcas nos fory?

Sara Y sedd sbesial – i’r un efo mwya o fodia?

Sionyn Ym... nadw.

Elinor O. Dwi’n meddwl bo ti’n bril by the way. Fedri di ddysgu chydig
o dricia i fi rwbryd? Fedrai neud y splits yn barod, tisho gweld?

Sionyn Ym, dim rwan, diolch.

Elinor Ok, rywbryd eto ia? Gai selffi ta? Hold on...
Yn estyn ei ffôn a thynnu llun. Methu anfon, felly yn holi cwpl
oedrannus.

Elinor Ym sgiws mi..da chi’n gwbod os ydyn nhw di newid y wifi code?

Hen wr Wai be?

Sara Wi-fi

Hen wr (yn rhoi high 5 iddi) Wel hai ffaif i chditha mechan i.

Sara O diom ots...

Hen wr Meri – y ledis ma di dod i roi hai ffaif i chi.

Hen wraig Sut odda chi’n gwbod bod hi’n benblwydd arnai?

Elinor Ymm....be?

17
Hen wr Wedi dwad am de bach penblwydd ydan ni. Ma na sôn mawr
am y lle syrcas ma.

Hen wraig Dwi’n eighty six heddiw chi.

Elinor O. (dim diddordeb) Penblwydd hapus.

Hen wraig Chi nath ddwyn fy nannedd i?

Elinor Be?

Hen wraig Dannedd del gynno chi. Da chi’m di rhoi gwenwyn yn y


tê ma naddo?

Hen wr Na dydi’r ledi yma ddim yn gweithio yma, Meri.

Hen wraig Wel pwy nath ta? Dyn y tricia bodia ‘na ma siwr ia?

Hen wr Sion y Bodia – dyna ma nhw’n ei alw fo.

Hen wraig Mwydro am fodia bob munud. Os dio gymaint o


arbenigwr geith o ddod i fendio nghorn i...

Hen wr Dim bodia’ch traed chi ma nhw’n feddwl, Meri!

Sionyn Pobl sy’n clicio’r bawd ‘like’ ar y we.

Hen wraig (yn clicio ei bodia) Duwcs i be dwch?

Elinor (yn ddi-amynedd) Os da chi’n boblogaidd, mi wneith


cannoedd o bobl godi bawd ar eich llun chi. Gyna i gant chwe
deg bawd ar y llun yma.

Hen wr Rhowch eich llun arno fo Meri – goda i mawd arnoch chi.

Hen wraig Fedrwch chi ddim codi ar eich traed Tomos Jôs, heb sôn
am godi dim byd arall.

Sara Odda chi ddim yn rhoi llunia i fyny i gal bodia.... back in the
day?!?

Hen wraig I fyny ar y wal odd ein llunia ni yn mynd mechan i – dim
ar y peth untar-net ’ma, fel dach chi bobl ifanc yn ei neud
heddiw. Llunia am‘fodia’ ?? Argol, swn i ddim yn gwybod lle i
ddechra wir!

Hen wr Ma’r oes di newid Meri...


.
Hen wraig Ma pob dim wedi newid.

18
Cân 5 – MAE PETHA ’DI NEWID

Pan odda ni’n ifanc, doedd na’m teledu


X-box gems - ddim yn bodoli
Dim apps bach clyfar i’n cadw ni’n brysur
Dim syllu ar sgrîn ar unrhyw achlysur!
Yr awyr iach yn llenwi ein ffroena
Baw a mwd ar ein penaglinia
Eye-pad i ni oedd chwara ‘môr-ladron’
Dim gajets yn bod, a ninna yn fodlon!

Ond ’di petha ddim fel o’nw ers talwm


Erbyn hyn tos na’m gwên i’w gael:
Pawb a’i trwynau mewn sgrîn o hyd!
Tydi petha ’di newid…
Ydi – mae petha ’di newid!

Macbook Air? Ffresh êr yn hen ddigon!


Be am Blackberry? Hel mwyar duon!
Apple iPhone? Wrth y goeden fala’
Chwara tu allan yn braf efo ffrindia!
Facebook, twitter a soshial midia
Siri, Google, a be am Alexa?
Gêm bel-droed neu fynd i bysgota
Chwara’n iach, cyn i ni hel am adra!

Ond ’di petha ddim fel o’nw ers talwm


Erbyn hyn tos na’m gwên i’w gael:
Pawb a’i trwynau mewn sgrîn o hyd!
Tydi petha ’di newid…
Ydi – mae petha ’di newid!

Www.. sha la la

Na, ’di petha ddim fel o’nw ers talwm...

19
Golygfa 7: Y Stondin/Sycas

Sionyn, Sion, Catrin, Cêt, Elinor, Swsi, (Sara)

Pawb yn aros/ciwio i fynd i fewn i’r Syrcas.

Cêt (yn darllen) Oddat ti’n gwbod bod buwch yn torri gwynt yn
waeth i’r blaned na buwch yn gollwng rhech?

Catrin (sbio’n wirion arni) Ok... diolch am y ffaith random yna.

Cêt Gwleidyddion yn erbyn gwartheg, be nesa. Lle ma Owain?

Catrin Hwyr! Eto wsos yma!

Cêt Gen i docyn. A’i mewn i gadw set i ni, iawn?

Elinor (Elinor i mewn yn bihafio fel seleb.)Sgiwshwch fi – diolch,–


sori ga’i fynd i’r blaen, fi gafodd y mwya o fodia.

Swsi Elinor Charlotte?

Elinor Ia – fi di Elinor…Haia... ges i 408 o fodia..

Swsi I’r blaen plis. Ma’r sedd arbennig reit yn y canol.

Elinor Dwi’n cael back stage pass wedyn ydw? …


Swsi yn gwaredu. Sion yn mynd at Swsi Stats sydd ar ei ipad.

Sion Ydi pawb i mewn Swsi cariad?

Swsi Ydi... dwi’ n meddwl –tydi hwn ddim cweit yn gweithio...

Sion Mmm persawr newydd Swsi? Ogla melys arna ti...

Swsi Yyyym... na... ym... (isho diflannu) Ydi ma pawb i mewn Syr..

Swsi’n troi a Sionyn yn ei stopio.

Sionyn Swsi – Ydi Cêt yma?

Swsi Dwi heb ei gweld hi naddo...

Sionyn Iawn. Dad…

Sion Be rwan eto?

Sionyn Dwi wir ddim yn meddwl fod hyn yn...

Sion Gwranda… dim ond hwb bach i’r cyfeiriad iawn ydio.

Sionyn Jest byddwch yn ofalus be da chi’n ddeud …

20
Golygfa 8: Syrcas

Tim, Hen Wraig,Sion, Cêt, Catrin, Sionyn

Clapio’n frwd i gerddoriaeth y syrcas. Rwtin Syrcas .

Sionyn Diolch. Waw, da chi’n llawn egni heno – ac yn edrych yn effro


iawn. Cofiwch chi gadw’ch gafael – yn be da chi’n gredu…
hynny ydi… dim pendwmpian…

Hen wraig Da chi’n clwad Tomos Jôs? Dim pendwmpian medda’r


gentleman.

Sion yn sbio’n flin arno o’r ochr…cyn dod ymlaen

Sion Noswaith dda, gyfeillion....

Cêt (chwilio am Owain a Catrin)Lle ma rhein?...

Sion Da ni’n dechra’r syrcas heno efo dipyn o sypreis – Dwisho i chi
gyd edrych ar y sgrin ...ia pawb - edrychwch i fyw llygaid y
clown …

Ar hyn, mae llygaid y clown yn dechrau troelli, a’r gynulleidfa yn


syllu arnynt yn stond. Mae Sion yn codi ei deyrnwialen ac yn ei
tharo deirgwaith cyn ei phendilio o flaen y gynulleidfa.

Sion Mi deimlwch eich hunain yn mynd yn gysglyd, a phan fydda i’n


cyfri i lawr o dri, da chi i gyd am syrthio i drwmgwsg mawr…3,
2, 1…

Y tu allan mae Catrin yn dal i aros am Owain…

Catrin Cymon, Owain…fydd y syrcas ’di gorffen!

Nôl yn y syrcas, mae pennau’r gynulleidfa wedi gollwng a phawb yn


cysgu’n sownd.

Sion A da chi i gyd wedi ymlacio’n llwyr… ar ôl tri, cymrwch un anadl


ddofn efo’ch gilydd 1, 2, 3…

Y gynulleidfa yn anadlu’n ddwfn.

Sion Da iawn (cilwenu ar Sionyn) Ddusish i sa fo’n gweithio.

Tim Siriys? Ydyn nhw i gyd yn cysgu?

Sion Bob un – sbia hyn… Codwch eich braich dde...

Y gynulleidfa yn ufuddhau (tybed all ambell un ohonynt fod yn


eistedd yn y gynulleidfa go iawn?)

21
Sionyn Di hyn ddim yn iawn...

Sion Codwch ar eich traed.

Sionyn Dad stopiwch – gadwch i fi eu deffro nhw... Deffrwch!

Sion Haha – fedri di ddim heb...

Sionyn Heb be? Dad!

Sion Trowch rownd…(y gynulleidfa yn gwneud)

Tim Ha ha!

Sion Ar ôl tri, ma gynno chi i gyd chwain – un, dau, tri!

Y gynulleidfa yn gwasgaru ac yn cosi.

Sion Ha ha!! Ewch yn llipa fel doli glwt! (mae nhw’n gwneud)
Sythwch! (yn gwneud eto) Dewch yn nes. A phenglinio o
mlaen. Ha ha!! Ma nhw fel robots i mi!! Sbia hon!

Sionyn Cêt!! O na, Cêt di hi! Doedd hi ddim i fod yma! Plis deffrwch
hi Dad – plis...

Sion O gad dy swnian. Mai o ‘Dan y fawd’ siwr iawn.

Sionyn Cêt! Cêt! Deffra! Chewch chi ddim gneud hyn!

Sion Dwi wedi. Rwan dos o ngolwg i, cyn i mi dy swyno ditha run
peth.

Sionyn yn gadael yn wallgo.

Sion Gwrandwch yn ofalus… gyda’r etholiad ar y


gorwel... dwisho i chi gyd bleidleisio...i Sion y Bodiau
– Sion i’r Senedd...

Pawb Sion i’r Senedd !

Sion Rhannwch y neges ar eich cyfryngau cymdeithasol yn ddi-baid.


Peidiwch codi eich pen o’ch ffonau nes mod i wrth y llyw –
deall?!

Tim Ma nhw’n gneud yn union fel da chi’n ofyn.

Sion (yn falch a chynllwyngar) Ydyn.

22
Cân 6 – Y ROBOTIAID

Plygwch eich pennau, codwch eich braich,


Stampiwch eich traed, UN DAU TRI,
Cam bach i’r dde, yna troi’n eich lle –
Robots bach ufudd yda chi!

Wedi’n hypnoteiddio,
Brêns ddim yn gweithio
Pypedau gwan, ym mhob man,
Sion yn clicio’i fysedd
A ninnau’n teimlo’n rhyfedd
A dilyn ei gyfarwyddiadau...

Cyt:
Plygwch eich pennau, codwch eich braich,
Stampiwch eich traed, UN DAU TRI,
Cam bach i’r dde, yna troi’n eich lle – R
obots bach ufudd yda chi!

Yn llipa – fel cadachau,


Derbyn – y rheolau,
Cytuno efo’i syniadau
A dilyn ei gyfarwyddiadau...

Plygwch eich pennau, codwch eich breichiau,


Stampiwch eich traed, un dau tri,
Cam bach i’r dde, yna troi’n eich lle
Robots bach ufudd yda chi.

Sion A chofiwch, peidiwch codi eich pen o’ch ffôn nes mod i’n rheoli!

Y gynulleidfa yn ufuddhau ac yn mynd i’w seddi yn araf gyda’u pen i


lawr yn syllu ar eu ffonau symudol.

23
Golygfa 9: Stondin.

Catrin, Owain, Cêt, Person 1,2,3, 4.

Owain yn cyrraedd a’i wynt yn ei ddwrn. Catrin wedi blino aros.

Owain Sori, sori, sori.

Catrin Lle ddiawl ti di bod? – Ma nhw ’di cau’r drysa ers oes!

Owain Dafad di cael prolaps wrth ddod ag oen.

Catrin Iw. O’n i’n dechra poeni amdanat ti!

Owain (Yn licio’r syniad yma) Oeddat ti? Wir? (Yn sylwi fod Cêt
ddim yno) Lle ma Cêt?

Catrin Mewn yn fanna de! (yn gweld pawb yn dod allan o’r syrcas
ar eu ffonau) O… gret.

Catrin yn sylwi fod pawb yn bihafio yn rhyfedd.

Catrin Sbia - pawb ar eu ffôns…

Owain Dim byd newydd.

Catrin (Catrin yn estyn ei ffôn) No we!

Owain Be?

Catrin Yr etholiad mis nesa...

Owain O paid a dechra... dwi’m isho gwbod.

Catrin Mae Sion y Bodiau’n ymgeisydd!

Owain Be?! Sion y Bodiau? I’r Senedd? ‘Rioed?!

Catrin Sion i’r Senedd wedi’i rannu’n bobman.

Owain Dwn i’m pam dwi’n synnu. Nawn nhw adel i unrhyw ffŵl fod ‘in
charge’ dyddia yma. (Saib. Gweld Cêt yn dod) Cêt ydi hon?
Llyfr sydd ganddi fel arfer, dim ffon.

Catrin (wrth Cêt) Sori, Cêt - odd Owain rhy hwyr…. Cêt?

Cêt (heb godi ei phen. Awgrym ei bod mewn ‘trans’) Ddim rhy
hwyr am bleidleisiau- rhoi nhw’i gyd i Sion y Bodia…

Owain Ia – dio’n wir fod y lembo dwl yna’n sefyll?

Cêt Dim lembo dwl, ond dyn sy’n meddwl.

24
Catrin Ti ’di newid dy gân!

Cêt Newid fy nghân i newid y drefn. Rhannu’n ddi-baid – dyna


sydd raid…

Owain (wrth Catrin) Odd well gynna i hi a’i phen mewn llyfr.

Cêt Pen yn y ffôn – pleidleisio dros Sion…

Catrin Cêt – ti’n iawn? – Cêt – sbia arna fi…

Person 1 Dim codi’n penna – Sion ydi’r gora…

Catrin Reit Cêt – stopia hyn rwan – ti’n codi ofn arna fi…

Owain Ma nhw i gyd wrthi…

Person 2 Rhannu’n ddi-baid – dyna sydd raid.

Person3 Pen yn y ffôn, pleidleisio dros Sion…

Owain Ma hyn yn sbwci.

Catrin Ma’i sloganau gwirion o’n mynd yn feiral – ti’n gwbod be mae
hyn yn feddwl ’dwyt?

Owain Be?

Catrin Y bydd miloedd o bobol yn credu’r clwydda ma…– clyw–

Person 4 ‘Traffordd o Gorwen i Gaerdydd’…

Person 1 ’Can mil o swyddi i Cyffylliog’…

Person 2 ‘Theme Park i Prion’!

Owain Prion? Sna’m hyd yn oed pyb yn fanno!

Person 3 Dim codi’n penna, Sion ydi’r gora…

Owain Be ddiawl sy’n digwydd?!

Catrin Dwn im, ond ma na rywbeth mawr o’i le.

25
Golygfa 10: Swyddfa

Tomos, Sionyn, Sion, Swsi

Sloganau di-rif yn ymddangos ar blacards - ‘Traffordd o Gorwen i


Gaerdydd’ … ’Can mil o swyddi i Cyffylliog’… ‘Theme Park i Prion’ ‘Sion
i’r Senedd’ ‘Eich dyfodol yn fy nwylo’ ‘Dewch dan y Fawd’ Cerddoriaeth i
gyfleu fod tensiwn yn cynyddu, a’r bobl yn mynd yn fwy a mwy
‘robotaidd’. Swsi yn swyddfa Sion.

Sion A faint yn union o ddilynwyr sydd gen i rwan?

Swsi Ymmm Deuddeg mil, chwe chant a saith, ag wyth Syr. Ma’n
cynyddu wrth y funud.

Sion Perffaith. (yn cadw y deyrnwialen) Fyddai ddim angen hon


am sbel felly, mai wedi gneud ei gwaith.

Swsi Ond mi fydd raid i chi ddeffro pawb rhywbryd Syr,... ma hyn yn
erbyn y gyfraith dwi’n siwr... a...

Sion Shsh, sdim angen poeni am hynny eto, ma isho i ni feddwl am


ffyrdd i ddathlu Swsi...

Swsi Na, da chi wedi mynd rhy bell Syr – a does gen i ddim dewis
ond mynd at yr...

Daw Tomos i mewn ar eu traws. Swsi yn gadael i ffonio’r heddlu.

Tomos Pa newydd?

Sion Gee, Tomos – chdi eto.

Tomos Petha’n mynd yn dda i ti, Sion.

Sion Be ti’n da yma?

Tomos Meddwl byswn i’n rhoi plyg bach i chdi yn y papur…Ma na


sgŵp yn fama, does?

Sion Dwn i’m am be ti’n sôn…

Tomos Hyn de – rhein… yr holl rybish ma ti’n gael y cyhoedd i’w


bregethu... faint ti di dalu iddyn nhw, Sion?

Sion Dim ceiniog. Ti di cael y stori’n rong tro ma, mêt.

Tomos Ella wir – ond dwi’n gwbod fod na rwbath ddim yn taro deuddeg
yma – ac mi ffindiai’r gwir i ti –

26
Sionyn (yn rhedeg i mewn yn wyllt heb weld Tomos) Dad… ma raid
i chi stopio hyn – di pobol ddim yn sbio lle ma nhw’n mynd…

Tomos Stopio be, Sionyn?

Sion Yli, Tomos –gen i waith i’w wneud.. rwan dos di nôl i chwara
efo dy bensil, dwi’n brysur.

Tomos yn gadael yn flin.

Sion: (yn araf, tawel a bygythiol)


Gwranda – dwi dechra.. colli… fy amynedd.. efo ti.

Sionyn Ond.. ma raid i chi ddeffro nhw, cyn i rwbath ofnadwy


ddigwydd.

Sion Fedra’i ddim.

Sionyn Be?!

Sion Fedra’i ddim – Dwi’n canslo’r syrcas tan ar ôl yr etholiad i mi


gael paratoi fy araith fuddugol.

Sionyn Gewch chi ddim gneud hynny!!

Sion Caf – ga’i neud fel licia’i. Dim syrcas, dim hypnoteiddio.

Sionyn Be sy di digwydd i chi?

Sion Yli, os ti ddim am fy nghefnogi fi, ti’n gwbod lle ma’r drws.

Tomos wedi clywed hyn ac yn pendroni.

27
Golygfa 11: Syrcas

Owain, Catrin, Sionyn, Tomos, Jeremi, Cêt

Y ddau yn sleifio i mewn i’r syrcas. Ambell anifail o gwmpas mewn


caets!

Owain (Am yr anifeiliaid) O leia di rhein ddim ar eu ffôn – ella ga’i


well sgwrs efo’r mwnci ma?

Catrin Shshsh – rhag ofn fod na rywun o gwmpas.

Tawelwch wrth i’r ddau gerdded yn betrusgar rownd cylch y syrcas.


Owain yn rhoi braw i Catrin.

Owain Bw!

Catrin Owain!! Rho’r gora iddi!!

Owain Duwcs ’sa neb yma, siwr – mond ti a fi – a rhein.

Anifail yn gneud sŵn i ddangos eu bod nhw yno hefyd!

Mae nhw’n eistedd… Owain yn obeithiol…

Catrin (yn poeni) Be da ni’n mynd i neud?

Owain (yn ffansio ei lwc) Gen i syniada, de…

Catrin Oes?

Owain Oes…. (yn mynd i estyn ei fraich amdani – ond mae nhw’n
cael eu styrbio gan Sionyn)

Sionyn (yn siarad efo fo’i hun yn flin) Rhyngtho fo a’i betha....…
ow… helo? Da chi’n effro.

Owain Ydan, – ti newydd chwalu mreuddwyd i, mêt.

Sionyn Tydi’ch penna chi ddim yn eich ffons...

Catrin Fel pawb arall ti’n feddwl? Yn siarad lol fatha Cêt?

Sionyn Lle ma Cêt? Ydi hi’n iawn? Doedd hi ddim fod yma...

Owain Be ti’n feddwl? Be sy’ di digwydd i bawb?!

Tomos yn ymddangos…

Tomos Ia, Sion… be sy di digwydd i bawb? Ma na rywbeth od iawn yn


mynd ymlaen – be dio Sion?

28
Sionyn Sionyn dwi – ti’n cymysgu - Dad ydi Sion, a da ni ddim byd
tebyg.

Tomos Sionyn, sori – duda fwy wrthai?

Sionyn Allai ddim... dwi di deud gormod...gad lonydd i fi.

Tomos Hei, tyd nôl! Fedrwn ni ddod i gytundeb...

Sionyn yn gadael – Tomos yn rhedeg ar ei ôl.

Catrin Ma raid i ni neud rwbath –

Owain Be ddudodd o – deud bo ni’n effro…

Catrin Na!! Owain – sut oeddwn i pan ges i fy hypnoteiddio?

Owain Fatha zombi! Ma’n amlwg dydi - mae o di hypnoteiddio nhw!


Ma rhaid ni gael gafael ar Cêt – tyd!

Catrin ac Owain yn brysio i ffonio Cêt. Yn ystod y sgwrs isod, mae


nhw’n edrych allan i’r gynulleidfa tra’n siarad efo Cêt. Mae Cêt yng
nghefn y llwyfan fel ‘silhouette’, neu mewn spotlight ar lefel uchel,
yn cerdded yn ei hunfan a’i phen yn syllu ar ei ffôn. Nid yw’n codi ei
phen i siarad.

Owain Os ydi ei phen hi’n sownd yn y ffôn, ma’i siwr o ateb…

Catrin Cêt, ti yna?

Owain Cêt – ma raid i ti ddeffro… gwranda!

Cêt Gwrando ar Sion, pen yn y ffôn…rhannu slogana, dim ots am y


ffeithia…

Owain Cêt, lle wyt ti? Ddown ni atat ti…

Cêt Mond mynd am dro, rhaid fotio iddo fo. Cerdded fy hun, Sion
ydi’r dyn.

Catrin Cêt, deffra nei di!! Ti’n cael dy reoli!!! Ti’m yn gweld?

Cêt Gweld dim byd – dwi’n cerdded y stryd. Pen i lawr, traffig
mawr… Croesi y lôn – dal ar fy ffôn….

Catrin Be? Croesi’r lôn? Cêt stopia – coda dy ben!! Coda dy ben
Cêt! Rhag ofn fod na gar yn……

Sŵn sgrialu mawr a char yn crasho. Tywyllwch a sŵn seiren.

29
Golygfa 12: Cylch y Syrcas – Ysbyty.

Cêt, Catrin, Owain, Nyrs, Sionyn

Mae gwely ysbyty wedi ei osod ar ganol cylch y syrcas. Mae nyrs yn
checio’r peiriant wrth y gwely, a Cêt yn gorwedd yn llonydd ynddo.
Clywn guriad cyson ei chalon. Mae Owain a Catrin wrth erchwyn y gwely.

Nyrs Peidiwch â’i blino hi, ma’i wedi cael anaf dwys i’w phen.

Catrin Ond ydi hi’n mynd i fod yn iawn?

Nyrs Roedd y ddamwain car yn un difrifol. Ma’r peiriant yma yn ei


chadw hi’n sefydlog am rwan.

Owain Ond mi neith hi ddeffro, yn gneith Nyrs?

Nyrs Dyna ’da ni’n ei obeithio.

Sionyn yn cyrraedd mewn brys.

Sionyn Sut mae hi? Glywais i am y ddamwain... fydd hi’n oreit?

Nyrs Fedrwn ni ddeud dim yn iawn tan iddi ddeffro.

Sionyn Allai’m credu hyn.

Nyrs Mai’n hogan gry, llonydd mai angen.

Catrin yn ypsetio

Catrin Fy mai i ydi o – taswn i ddim ar y ffôn efo hi …

Owain Shsh. A’i nol panad i chdi.

(Owain yn gadael)

Owain Bai Dad ydi hyn, a neb arall. Am lanast. Odd Cêt yn iawn –
ma’ pwer yn gneud pobl yn farus.

Catrin Be os neith hi ddim deffro Sionyn?

Catrin a Sionyn yn canu i Cêt sy’n llonydd yn y gwely. Yn ystod


‘bridge’ y gân, mae Cêt yn ystwyrian, ac yn dechrau deffro.

30
Cân 7 – PAID Â NGADAEL I

Catrin:
Agor cil dy lygaid, rho rhyw arwydd bach
Gad mi deimlo dy goflaid, dweud y byddi eto’n iach
Deffra o dy drwmgwsg, tyrd â’th wên yn ôl...

(Cytgan) Catrin:
Ti yw fy ffrind am byth,
Yr haul drwy’r cymylau - i’m cysuro i.
Mi fyddai’n ffrind am byth
Yno, bob amser, wrth dy ochr di
Felly deffra o’r freuddwyd – paid â ngadael i.

Sionyn:
Paid ag anobeithio, rhaid ni frwydro hyn.
Cyn bo hir dwi’n addo, y daw na eto haul ar fryn.
Rhaid ni fod yn ddewr, mi ddaw hi eto’n rhydd...

(Cytgan) Catrin a Sionyn:


Ti yw fy ffrind am byth,
Yr haul drwy’r cymylau - i’m cysuro i.
Mi fyddai’n ffrind am byth
Yno, bob amser, wrth dy ochr di
Felly deffra o’r freuddwyd – paid â ngadael i.

***
Nyrs:
Dwylo’n cydio - Llygaid yn dihuno
Clustiau’n gwrando - Ydi hi’n deffro?
Cydio! Dihuno! Gwrando!
Wyt ti’n fy nghlywed i…

(Cytgan olaf) ......

(Cêt: Wnai’m dy adael di.)

31
Cêt yn dod at ei hun ar ddiwedd y gân.

Sionyn Cêt ? Cêt, ti nghlywed i?

Cêt Mmm?

Catrin Ti’n mynd i fod yn OK, Cêt – ti’n mynd i fod yn oreit.

Owain (yn brysio i mewn) Ydi wedi deffro? Nyrs?!

Y Nyrs yn gofalu ...

Nyrs Na ti, ara deg.

Cêt Be ddigwyddodd?

Nyrs Ti di bod mewn damwain… wedi hitio dy ben…

Cêt Dwi’m yn cofio…

Catrin Ddaeth na gar – tra oeddat ti’n sbio i lawr ar dy ffôn…

Cêt Ffôn?

Nyrs Peidiwch â’i blino hi…

Cêt (yn ddryslyd ac araf) Y peth ola dwi’n gofio ydi eistedd yn y
syrcas… yn disgwyl amdanoch chi’ch dau…

Catrin (sylweddoli bod eu amheuon yn wir) Oeddan ni’n iawn.

Sionyn Wedi dy hypnoteiddio oeddat ti…

Cêt Be?

Nyrs Sori, ’sa well i chi adael, ma Cêt angen gorffwys…

Sionyn Paid â phoeni Cêt, mi fydd bob dim yn iawn, mi sortiai hyn,
dwi’n addo.

32
Golygfa 13: Stondin
Tomos, Sionyn, Cerddwr 1,2,3,4, Catrin, Owain, Cêt, Sion

Pobl yn cerdded heibio ar eu ffonau – yn crasho mewn i betha… a’i


gilydd. Sion yn eu gwylio fel teyrn.

Cerddwr 1 Dim codi’n penna – Sion ydi’r gora…

Cerddwr 2 Etholiad mewn tridia – pleidlais i’r Bodia.

Cerddwr 3 Tri diwrnod ar ôl – sdim troi yn ôl.

Cerddwr 4 Diwrnod etholiad – cofiwch y dyddiad

Pawb Sion i’r Senedd, Sion i’r Senedd, Sion i’r Senedd!

Sion (ar ‘podium’ efo llwyth o feicroffonau.) Tri diwrnod i fynd,


gyfeillion – cyn i mi, Sion y Bodiau, gael fy ethol i’ch cynrychioli
chi! Gyda’n gilydd, mi wnawn y Berfeddwlad yn le gwell i chi –
ac yn sicr i mi.
Pawb yn cymeradwyo. Sion yn mynd i ysgwyd llaw pobl, Sionyn
yn cerdded i mewn yn ddigalon.

Tomos Glywis di am y ddamwain y diwrnod o’r blaen? Ar ei ffôn odd hi-


ddim yn sbio lle roedd hi’n mynd.

Sionyn Dwi’n gwbod.

Tomos “Hogan ifanc, Cêt Roberts”.

Sionyn Es i i’w gweld hi – mai’n gwella. (Sionyn yn pendroni, mae


ganddo lawer o feddwl ohoni)

Tomos Deutha’i be sy’n mynd ymlaen Sionyn. Da ni’m isho trasiedi


arall ar flaen y papur ’ma!

Sionyn Dwi’n gwbod – ma’n gymleth…!

Tomos Mond tridia sydd tan yr etholiad .

Sionyn Mae rwbath ar goll...taswn i mond yn gwybod be’..

Owain Catrin a Cêt yn cyrraedd yn gweiddi ar draws ei gilydd…

Sionyn Cêt! Diolch byth! Sut wyt ti?

Cêt Gwella... ddes i adra ddoe. Fedrwn i ddim aros yn ‘sbyty ‘na –
a chymaint yn y fantol. Ma raid i ni roi stop arno fo.

Tomos Ar bwy? Ar Sion? Be yn union ddigwyddodd?

33
Owain Odd hi ’di cael ei hypnoteiddio – di cholli hi.

Cêt Ma nhw i gyd wedi – dyna pam eu bod nhw’n bihafio mor od.

Tomos Wow, wow, ara deg rwan…un ar y tro – be ddudist ti? – dy


hypnoteiddio? Oddat ti’n gwbod am hyn, Sionyn?

Sionyn O’n, ond fedrai ddim eu deffro nhw heb.... rwbath.

Owain Y cnoc ar ei phen wnaeth ddeffro Cêt, ac ma hi’n cofio Sion yn


cyfri i lawr o dri…a

Tomos (yn sgwennu ffwl-sbid) Ma hyn yn sgandal…

Catrin Ond sut mae deffro pawb arall?

Owain Wel, fedrwn ni ddim hitio pawb dros eu penna, de.

Tomos A dy Dad di’r unig un fedar eu deffro nhw?

Sionyn Dwn ‘im…Dwi’n siwr fedrwn ni ddatrys hyn. Dewch efo fi.

34
Cân 8 – GORCHWYL

Sionyn :
Mae 'na orchwyl fawr o’n blaenau
Mae 'na gynnwrf yn y tir,
Deffro’r dorf o’u trwmgwsg
Fel bod pawb yn gweld y gwir
Darganfod y gyfrinach
A chwalu’r swyn yn llwyr
Heb oedi, cyn bod hi’n rhy hwyr….

Cyt: YCriw
Awn i ganfod y gwirionedd
Dim mwy o’r celwydd mawr,
Mae’r dyfodol yn ein dwylo
Awn i ddeffro’r Cymry nawr!

Pawb:
Dyma’r awr i gael cyfiawnder
Dyma’n hawl i fod yn rhydd,
Dim dewis nawr ond llwyddo
Fe ennillwn ni y dydd.
Mae hi’n amser i ni ddeffro
A chodi nawr fel un
I fynnu ein hawl yn gytun

35
Golygfa 14: Y Swyddfa
Tim, Sionyn, Owain, Cêt, Catrin, Hen wraig, Hen wr

Sionyn yn chwilota trwy lyfrau ei Dad, a’r lleill yn ei ddilyn. Tim i mewn.

Tim Sionyn! O’n i’n meddwl bo chdi wedi gadael....

Sionyn Lle mae Dad?

Tim (yn eistedd) Allan yn brainwasho pobl ma siwr!

Sionyn Tyd, cwyd – da ni angen dy help di.

Tim I be?

Sionyn I ddeffro’r bobl ma!

Tim Fi?! Dwi’m yn dallt dim ar sut i ‘hypnoteiddio’ pobl! ‘DAWN


TEULUOL’ ddudis di...

Sionyn (yn ddiamynedd) Dwi gwbod! Ond ma dad di deud fod rhaid
canfod rhyw gyfrinach - y cynhwysyn ola ... cyn i mi allu
hypnoteiddio...

Owain Neu dad-hypnoteiddio. Haha! Dallt? Dad-hypnoteiddio...

Cêt Rhaid bod na gliw yma yn rhywle...

Owain Am be ydan ni’n chwilio yn union?

Catrin Papur? Neu lyfr... gair hud?

Tim Rhyw magic potion....?

Sionyn Sgynai’m syniad – ond fydd raid i ni frysio...

Cnoc ar y drws... yr hen wr a’r hen wraig sydd yno...

Tim Helo?

Hen wr Sumai sut da chi...

Tim Yn ei chanol hi braidd... be da chi isho?!

Hen wraig Ew, oddach chi’n ddigon o ryfeddod efo’ch campa


dwrnod o’r blaen...

Sionyn (wrth y lleill) Chwiliwch o dan y ddesg...

36
Hen wraig Biti i mi golli’r hwyl yn y syrcas hefyd – mi syrthiais i i
gysgu cofiwch...henaint...

Tomos Pryd?

Hen wraig Tomos Jôs wedi dwad a fi i’r syrcas ar fy mhenblwydd


wsos dwytha.

Hen wr Ond mi gysgon ni’n dau drwy’r cwbl, yndo Meri.

Catrin Welsoch chi mo’r sioe?

Hen wr Mond rhyw fymryn bach ar y dechra – a wedyn i ffwrdd â fi i


‘land of nod’!!

Tomos Cysgu cyn cael ei hypnoteiddio?!

Hen wraig Ond mi adewais i’n ffon gerdded yma – dwn i’m os da chi
wedi dod ar ei thraws hi?

Sionyn Ffon?

Hen wr Ia, un fach dila bren ydi hi – ddim fatha’r beth grand acw – ew
un ffansi de – ffon hud ydi hi?

Mae’n amneidio at y ffon deyrnwialen – sydd yn ymdebygu i siap y


lythyren f yn logo facebook. Sionyn a phawb yn edrych ar ei
gilydd...y geiniog yn disgyn..

Sionyn Y ffon!! Dyna’r gyfrinach ola! Tydi Dad byth yn hypnoteiddio


heb ei ffon! O diolch i chi!!

Hen wr Ew am be dwch?

Cêt Datrys y dirgelwch! Fedri di ddeffro pawb rwan Sionyn?

Sionyn Mi driai ngora...

Hen wraig A dacw hi’r fy un i – (yn gweld ei ffon ei hun.) Go dda.


Da chi ddim di digwydd gweld fy nannedd i hefyd naddo?

Owain Ma nhw yn eich ceg chi.

Hen wraig Ydyn hefyd.

Catrin Reit – tyd Sionyn – mae gen ti waith i’w wneud.

37
Golygfa 15: Y Syrcas

Owain, Cêt, Sionyn, Elinor, Sara, Sion, Heddwas 1,2,3 Tim. Tomos

Sionyn yn ymbaratoi i ddad-hypnoteiddio pawb. Owain yn ceisio hel y


dyrfa at ei gilydd.

Sionyn Be os neith o ddim gweithio?

Cêt Ma raid iddo fo weithio. Gynai ffydd ynot ti, Sionyn.

Sionyn Helo... Helo bawb! Sa neb yn gwrando!

Owain (yn heidio pawb fel defaid) Dal i fynd!

Sionyn Ydach chi’n fy nghlywed i? (Pawb yn dal fel zombies)


Gwrandwch yn ofalus. Ar ôl tri, mi fyddwch chi’n deffro o’ch
trwmgwsg, 1, 2, 3! (yn taro’r deyrnwialen)
Pawb yn deffro yn araf… yn teimlo’u pennau yn stiff.

Elinor Be ddigwyddodd? O, ma ngwddw fi’n brifo…

Sara A’n llygaid i… waw – be sy’n mynd mlaen?

Person 1 (yn pwyntio) Sionyn ’di hwnna?

Pawb yn troi yn araf i edrych ar Sionyn... synnau syndod tawel

Person 2 Mae Sionyn wedi’n hypnoteiddio ni?!

Person 3 Sganddo fo ddim hawl hypnoteiddio ni gyd fela!

Sionyn Na.. dachi ddim yn dallt..

Person 2 (gweiddi ar Sionyn) Be di dy gêm di?! Isho bod fel dad?

Person 1 Be ti ‘di neud i ni?!

Sionyn Na.. gwrandwch! Ddim fi nath!

Person 3 Mae o wedi’n twyllo ni gyd!!

Cêt (wrth Sionyn) Ma nhw meddwl mai ti nath hypnoteiddio nhw


yn y lle cynta!
Sŵn seiren yn y cefndir – heddlu yn gweiddi o ochr y llwyfan.

Heddwas 1 Dacw fo. (Mae’n nhw’n gafael yn Sionyn)

Heddwas 2 Da ni wedi cael gwybodaeth fod rhywun wedi bod yn


gorfodi meddyliau pobol yn erbyn eu hewyllys.

38
Sionyn Ma hynny yn wir... ond ddim fi nath.

Person 4 Be ti neud efo ffon dy dad ta??

Heddwas 1 Mae cwyn wedi ein cyrraedd fod ‘Sion’ - o’r syrcas hon,
wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi bod yn hypnoteiddio
cynulleidfaoedd cyfan, a’u gorfodi i rannu propaganda
gwleidyddol.

Sionyn Naddo, dim fi.Dad ydi Sion! Sion y Bodia! Mae ganddo ni’r un
enw!

Person 1 Mae o’n beryg efo’i hypnoteiddio offisyr! Gwnewch rwbath!

Heddwas 2 Gwranda Sion, fedrwn ni neud hyn y ffordd hawdd, neu’r


ffordd anodd... Sdim iws trio dianc, ti wedi dy gornelu

Owain Dio’m di gneud dim byd o’i le!

Y dyrfa yn troi yn erbyn Sionyn.

39
Cân 9 – DIM FI

1: Mae’r waliau yn cau amdanat,


Mae hyn wedi mynd rhy bell…
Dim mwy o reoli meddylia,
Mae’r bobl yn haeddu gwell!
Bydd y cynllun dieflig ar chwâl
Y dihiryn wedi ei ddal... ..yn y gell!

2: Mae’r waliau yn cau amdanat,


Mae’n well i ti wylio dy gefn...
Rhoi taw ar yr holl gelwydda
Cael popeth yn ôl i drefn!
Cei anghofio dy freuddwydion ffol
A chyfiawnder sydd angen yn ôl...drachefn!

(Cygan) Sionyn:
Pwy... fydd yn fy nghredu i?
Allai’m cymryd y bai ar gam, cael fy ngwawdio heb holi pam...
A thrwy hyn i gyd, ti’n dal wrth f’ymyl i o hyd
Ti’n gwybod dim fi sydd ar fai – dim fi!

3: Mae’r waliau yn cau amdanat


Mor anodd yw gweld yn glir
Ai ti sydd ar fai am y llanast
Mae’r niwl wedi’n drysu’n rhy hir...
Ynteu ni fuo’n wirion o ddall
Nid hwn sydd ar fai - ond y llall…dyna’r gwir.

(Cygan) Cêt:
Rhaid... i chi nghredu i –
Dim ond da sy’n ei galon o,
yn onest ei air bob tro!
A beth bynnag ddaw o hyn,
fyddai’n gafael ei law yn dynn
Dwi’n gwybod dim fo sydd ar fai – dim fo!

* * * Diweddglo:
(Dim Fi!) Pwy sy’n twyllo’r bobl efo’i dricia?
(Dim Fi!) Pwy sy’n hoffi cadw cyfrinacha?
(Dim Fi!) Pwy sydd ddim yn barod i gyfadda? Ti!
(Dim fi!) Ti!
(Dim fo!) Ti...... (Dim fi!)

40
Golygfa 16. Syrcas

Cêt, Tim, Owain, Catrin, Sion, Sionyn, Heddwas 1,2,3 Tomos, Elinor, Swsi

Wedi i bawb sylweddoli’r gwir, mae’r criw yn galw ar Sion i gyfaddef...

Catrin Tyrd allan Sion, alli di ddim cuddio am byth.

Cêt Mai ar ben arnat ti – ma’r gwir yn siwr o guro.

Owain Game over Mr. Bodia!


Sion yn dod allan o’i Swyddfa.

Sion Rhy hwyr – ma nhw wedi cymryd Sionyn – ddaw nhw ddim ar
fy ôl i rwan…

Cêt Sut fedrwch chi... eich mab eich hun!?

Sion Fo drodd ei gefn arna fi! Pwy ma nhw mynd i goelio.. Dwi’n
gymeriad o statws, yn seleb hyd lle ma.... gai neud rwbath liciai
a chael get awe efo’i!
(Swsi yn dod i mewn)
Swsi Ddim cweit Bos, ma na rai petha na chewch chi get awe efo
nhw.

Sion Swsi fach… deud wrthyn nhw…

Swsi O – peidiwch chi â phoeni - fi ddudodd bopeth wrthyn nhw (yr


heddlu yn cerdded i mewn, a Swsi yn pwyntio atynt)– am y
twyll, y meddiannu meddyliau, a’r holl droeon da chi wedi
cymryd mantais o bobl. (wrth yr heddlu) Hwn ydi’r ‘Sion’ o’n i’n
sôn amdano…

Sion Ond Swsi fach – fedri di ddim gneud hyn i mi?

Swsi O gallaf. A gyda llaw, Susanna ydi’n enw fi.

Sionyn a Tomos yn dod i mewn.

Sionyn Ma nhw’n gwbod popeth Dad.

Sion Be? Ond toes na ddim tystiolaeth…

Tomos Odd gen i ddigonedd o dystiolaeth yn dy erbyn di Sion y Bodia


– llunia, recordia, nodiada – mae’r gwir i gyd yn y papur bach
pitw yma yli.

Sion Chdi a dy bapur...


Heddlu Sion y Bodia, dowch efo ni i’r stesion os gwelwch yn dda.

41
Sion Mond canfasio o’n i! Sna’m cyfraith yn erbyn hynny! (yr
heddlu yn llusgo Sion ymaith) Gadwch lonydd i mi!!..
Owain (Yn gweiddi ar ei ôl) A drychwn ni ar ôl y ffon hud ‘ma!
Ddaw hi’n handi i fynd rownd y defaid. Pawb yn dathlu.
Sionyn Diolch Cêt.
Cêt Am be?
Sionyn Am gredu yndda i.
Cêt Diolch byth fod yr heddlu wedi dy gredu di! Neu fysa ti dal o
dan glo!
Sionyn Da ni gyd yn rhydd rwan - bob un ohona ni. I feddwl dros ein
hunain.
Elinor Heb gael ein llyncu gan hwn! (ffon)

Sara Dwi’m isho gweld social media am amser hir iawn!

Elinor A dwisho penderfynu petha drosta fi’n hun o hyn ymlaen!

Cêt Dilyn dy galon, yn lle dilyn y dorf, ella? (rhoi llyfr iddi)

Sionyn yn mynd at Swsi.


Sionyn Nes di’n iawn. Odd o’n haeddu be gafodd o.

Swsi Oedd – dwi gwbod fod o’n dad i ti... ond dwi a phawb arall yn
haeddu gwell. Jest... dwn i’m be nai rwan. Efo’r bos ar ei ffordd
i jel Rhuthun...

Tim O na, dim Syrcas – dim job!

Sionyn Be da chi’n feddwl?! Da chi’n gweithio i mi rwan siwr – mi


newn ni dîm da.

Swsi A neb ‘dan y fawd’ cofia!

Sionyn Neb. Dwisho pawb yn effro, yn mwynhau. Ac mi fyddwn ni gyd


rhy brysur i fod mewn trwmgwsg, neu a’n pena i lawr yn y ffon.

Catrin Llai o sbio i lawr, mwy o sbio i fyny.

Owain Ac ymlaen! I’r gad!

Cêt Codwch eich pen yn uchel bobl, da chi’n rhydd!!

Cân 10 – CODA DY BEN

Ar ôl canfod y gwirionedd, mae pawb nol at eu coed -


Yn gweld y byd, ei wefr a’i hud, yn gliriach nag erioed.
Rhoi’r gorau i ddibynnu ar eiriau gwag y sgrin,
Dy ddewis di – bydd driw i ti dy hun…

42
Ac yma ynghylch y syrcas, ’sdim angen codi bawd,
Yn blant neu’n hen – rhannu gwên, a neb o dan y fawd!
Agora di dy lygaid, a deffro’i weld y gwir –
Dy ryddid di - o’th flaen yn berffaith glir…

Cyt:
Coda dy ben (coda dy ben),
Deffra nawr o’th drwmgwsg,
Teimla dy enaid yn rhydd,
Wrth droi dy gefn ar yr un hen drefn,
Gei di brofi rhyfeddodau!
Agora’r llen – paid colli’r cyfle nawr... Coda dy ben.

Mae’n bywyd ni fel syrcas, yn ras o le i le,


Ond cofia di, fod lle ac awr, i bopeth dan y ne’.
Ac yna o dy flaen di mae’r cyfoeth mwyaf un,
Sy’n perthyn i dy galon di dy hun...

***

Profa’r byd ar ei orau, Rhyddid yn dy wythiennau,


’Sdim angen dilyn y dorf i blesio neb.
(Paid colli dy gyfle – coda dy ben)

Hen wr Ew sbia Meri! Da ni yn papur!!

Copi o bapur newydd Tomos Gee gyda’r pennawd:

DEFFRA O’TH DRWMGWSG!


DIM MWY O FOD ‘DAN Y FAWD’ - DILYN DY
GALON!

Tomos Ddudish i bysa gen i sgŵp, do?!

Y DIWEDD

43

You might also like