Download as doc, pdf, or txt
Download as doc, pdf, or txt
You are on page 1of 2

CHAIR AND INDEPENDENT

BOARD MEMBERS

Hafan Cymru is the leading charitable provider of domestic abuse support services in
Wales, now in our 21st year of operation. We are a recognised leader not only in the
provision of housing and support services for women, men and children experiencing
domestic abuse, but also in preventative services e.g. our ground-breaking Spectrum
Project which works with young people in schools to raise awareness of domestic abuse.

In a drive to increase our effectiveness, we are seeking to recruit a Chairperson and


Voluntary Members for our Board of Management, and are especially interested in people
with the following skills and experience: Financial management and/or housing association
finance, human resources, business management and social enterprise, legal matters,
lifelong learning and employment, governance, equality and diversity.

As Chair you will lead the Board of Management in ensuring effective governance at all
times, and liaise closely with the Chief Executive. This will require a greater level of
involvement than as a Board member, with regular meetings with the Chief Executive once
a month at least to ensure an appropriate level of support is provided to her and other
meetings with external bodies as necessary. As a Board member you will contribute
actively to the overall strategic direction of the Association with constructive discussions
and debates. An induction and training programme will be provided. The time commitment
to the post of Board Member is one evening 7 times a year, an overnight stay for our
annual strategy event and one or two day events. You will need a commitment to our ethos
and philosophy, and a good sense of humour. We currently have members from all over
Wales but are under-represented in the North West, Gwent and South Wales other than
Cardiff. Meetings are held in the evening alternately in Carmarthen and Llandrindod Wells.

Further details about the work of the organisation can be found at www.hafancymru.co.uk.
If you would like an informal discussion with the current Chairperson, Janet Amos, or our
Chief Executive, Cathy Davies, please call 01267 225555 or e-mail
cathydavies@hafancymru.co.uk.
CADEIRYDD AC AELODAU
BWRDD ANNIBYNNOL

Hafan Cymru yw’r prif ddarparydd elusennol o wasanaethau cynhaliaeth camdriniaeth yn y


cartref yng Nghymru, a buom wrthi erbyn hyn ers 21 mlynedd. Rydym yn arweinydd
cydnabyddedig nid yn unig o ran darparu gwasanaethau tai a chynhaliaeth i fenywod,
dynion a phlant sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref, ond hefyd o ran gwasanaethau
ataliol e.e. ein Prosiect Sbectrwm arloesol sy’n gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion i
godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth yn y cartref.

Er mwyn ein gwneud yn fwy effeithiol, rydym yn ceisio denu Cadeirydd ac Aelodau
Gwirfoddol ar gyfer ein Bwrdd Rheoli, ac rydym yn chwilio’n arbennig am bobl â’r medrau
a’r profiad canlynol: Rheolaeth ariannol a/neu gyllid cymdeithasau tai, adnoddau dynol,
rheolaeth busnes a mentrau cymdeithasol, materion cyfreithiol; dysgu gydol oes a
chyflogaeth, llywodraethiant, cydraddoldeb ac amryfaliaeth.

Fel Cadeirydd byddwch yn arwain y Bwrdd Rheoli i sicrhau llywodraethiant effeithiol ar hyd
yr amser, ac yn gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredydd. Bydd hyn yn galw am lefel uwch o
ymgysylltiad nac fel aelod Bwrdd, a bydd angen cynnal cyfarfodydd rheolaidd, o leiaf
unwaith y mis, gyda’r Prif Weithredydd i sicrhau bod lefel priodol o gynhaliaeth yn cael ei
roi iddi hi ynghyd â chyfarfodydd eraill gyda chyrff allanol yn ôl y galw. Fel aelod Bwrdd
byddwch yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i gyfeiriad strategol cyffredinol y Gymdeithas
trwy gymryd rhan mewn trafodaethau adeiladol. Bydd rhaglen gynefino a hyfforddiant yn
cael ei threfnu. Yr ymrwymiad amser ar gyfer swydd Aelod Bwrdd yw un noson 7 gwaith y
flwyddyn, aros dros nos ar gyfer ein digwyddiad strategaeth blynyddol ac un neu ddau
ddigwyddiad dydd. Byddwch angen ymrwymiad i’n hethos a’m hathroniaeth, a synnwyr
digrifwch da. Ar hyn o bryd mae gennym aelodau o bob rhan o Gymru, ond mae gennym
dan-gynrychiolaeth o’r Gogledd Orllewin, Gwent a’r De, ac eithrio Caerdydd. Cynhelir
cyfarfodydd gyda’r nos, bob yn ail yng Nghaerfyrddin a Llandrindod.

Mae mwy o fanylion am waith y gymdeithas i’w gweld yn www.hafancymru.co.uk. Os


hoffech gael trafodaeth anffurfiol gyda’r Cadeirydd presennol, Janet Amos, neu ein Prif
Weithredydd, Cathy Davies, ffoniwch 01267 225555 neu e-bostiwch
cathydavies@hafancymru.co.uk.

You might also like