Download as pdf or txt
Download as pdf or txt
You are on page 1of 1

Hindi

Prif iaith swyddogol India yw Hindi neu Hindeg (Devanāgarī: ह द neu हद ). (Mae Saesneg yn ail iaith
swyddogol.) Fel Wrdw, mae'n un o ffurfiau safonol yr iaith Hindwstaneg, sy'n aelod o'r gangen Indo-Iraneg
o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd.

Siaredir Hindi fel mamiaith gan 180 miliwn o bobl yng ngogledd a chanolbarth India, tua 40% o boblogaeth
India. Mae tua 25% o boblogaeth India yn medru Hindi fel ail iaith. Mae siaradwyr i'w cael hefyd yn Nepal,
Ffiji, Mauritius, Lloegr, Trinidad a Tobago, Gaiana, Swrinam, a llawer o wledydd eraill. Y bumed iaith
fwyaf yn y byd ydyw o ran nifer o siaradwyr.

Ar ddiwedd y 19fed ganrif, bu mudiad i ddatblygu ffurf ysgrifenedig o Hindwstaneg oedd yn wahanol i
Wrdw. Aethpwyd â hyn ymhellach wedi annibyniaeth; sefydlwyd comisiwn ym 1954 i safoni gramadeg
Hindi. Yn gyffredinol, mae cyweiriau ffurfiol Hindi yn osgoi geiriau gyda tharddiad Persiaidd, gan
ddefnyddio geiriau Sansgrit (gan gynnwys bathiadau) yn eu lle.

Mae'n perthyn yn agos i Wrdw, a ddatblygodd allan ohoni gyda dylanwad yr iaith Berseg yn y cyfnod
modern. Ond ysgrifennir Hindi gan amlaf gydag ysgrifen Devanāgarī, ac Wrdw gyda'r wyddor Arabeg.

Llenyddiaeth
Mae llenyddiaeth gyfoethog yn Hindi, yn ymestyn yn ôl i'r 12g, ac yn adeiladu ar lenyddiaeth Sanscrit. Yn y
llenyddiaeth draddodiadol, mae dylanwadau crefyddol cryf, a cheir lawer o straeon o hud a lledrith a
thylwyth teg. Er hynny, mae llenyddiaeth fodern, realaidd, yn ogystal. Mae Munshi Premchand (1880-1936)
yn un o'r nofelyddion enwocaf yn yr iaith.

Erbyn heddiw mae diwydiant ffilmiau egnïol yn Hindi, y cyfeirir ati yn anffurfiol fel "Bollywood", a'i
ganolfan ym Mumbai.

Argraffiad Hindi Wicipedia, y


gwyddoniadur rhydd

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato (https://cy.wikipedia.org/w/
index.php?title=Hindi&action=edit).

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Hindi&oldid=8928428"

Newidiwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 4 Medi 2019, am 17:05.

Mae testun y dudalen ar gael dan drwydded Creative Commons Attribution-ShareAlike; gall fod telerau ychwanegol
perthnasol. Gweler Telerau Defnyddio'r Drwydded am fanylion pellach.

You might also like